Elusen bywyd gwyllt yn poeni y gallai Cyfoeth Naturiol Cymru fod wedi gweithredu’n anghyfreithlon mewn perthynas â chynnig i blannu coedwig

Mae elusen bywyd gwyllt yng Nghymru, Menter ar gyfer Cadwraeth Natur Cymru (INCC), wedi ysgrifennu at Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yr wythnos hon yn manylu ar ei phryderon ynghylch sut gallai’r asiantaeth fod wedi gweithredu’n anghyfreithlon wrth ymdrin â chynnig coedwigo preifat yn Sir Gaerfyrddin.

Bydd y cynnig yn arwain at ardal fawr (73 hectar) o dir fferm yn nyffryn Cothi yn cael ei drawsnewid yn blanhigfa goedwig fasnachol anfrodorol.

Mae pryderon INCC yn canolbwyntio ar sut daeth CNC i’r penderfyniad nad oedd angen caniatâd CNC i fwrw ymlaen â’r cynnig neu gyrraedd y trothwy ar gyfer cynnal asesiadau amgylcheddol pwysig. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod y cynnig yn union gerllaw nifer o ddynodiadau tir gwarchodedig, gan gynnwys Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA).

Dywedodd Prif Weithredwr INCC, Rob Parry, “Y mater yn yr achos hwn oedd, er gwaethaf graddfa a lleoliad sensitif y cynnig hwn, yn syml iawn, ni chafodd llawer o effeithiau posibl y cynllun eu hystyried gan CNC o gwbl. . O’r herwydd, rydyn ni wedi ysgrifennu at CNC i’w hysbysu ein bod yn pryderu y gallai eu proses benderfynu a’u hystyriaeth i’r cynnig fod wedi bod yn anghyfreithlon.”

Mae cyngor cyfreithiol a geisiwyd gan INCC gan y cwmni cyfreithiol Leigh Day yn awgrymu na roddwyd ystyriaeth ddyledus i faterion amgylcheddol allweddol ac y dylai CNC, fel corff amgylcheddol statudol Cymru, fod wedi cynnal asesiad priodol ffurfiol cyn dod i’w benderfyniad.

Ychwanegodd y naturiaethwr a’r darlledwr, Iolo Williams, “Ar adeg pan fo bywyd gwyllt yng Nghymru yn wynebu pwysau digynsail, y lleiaf y dylem ei ddisgwyl gan CNC yw eu bod yn diogelu ein safleoedd mwyaf gwerthfawr ar gyfer bywyd gwyllt ac yn dilyn mesurau gwarchod amgylcheddol sylfaenol yn unol â bwriad y gyfraith”.

Mae INCC yn cydnabod y cyfraniad pwysig y gall ehangu gorchudd o goetir ei wneud i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur, fodd bynnag, mae llwyddiant yn dibynnu ar gael y coed priodol yn y lle priodol. Gall cynlluniau plannu coed sydd wedi’u dylunio’n wael niweidio’r budd i fywyd gwyllt mewn ardal, ac achosi colled net o garbon hyd yn oed.

Dywedodd Rob Parry, “Mae perygl gwirioneddol o golli cynefinoedd bywyd gwyllt yng Nghymru yn gyflym os bydd CNC yn parhau i fabwysiadu ei ddull presennol o ymdrin â cheisiadau ar gyfer coedwigoedd masnachol. Gyda channoedd o geisiadau wedi’u cyflwyno i CNC yn ystod y blynyddoedd diwethaf a llawer mwy yn debygol o gael eu cyflwyno yn y dyfodol, mae’n amlwg bod angen i CNC edrych eto ar ei sefyllfa”.

Dywedodd cyfreithiwr yn Leigh Day, Carol Day, “Rydyn ni’n falch o fod wedi cael cais i gynghori INCC yn yr achos pwysig hwn. Roedd ein bargyfreithiwr o’r farn y gellid dadlau bod diffyg cyfreithiol ym methiant CNC i ystyried a oedd angen asesiad priodol. Gobeithiwn y bydd llythyr INCC yn arwain at newid yn y ffordd mae CNC yn asesu cynlluniau yn y dyfodol”.

Mae INCC yn aros am ymateb gan CNC ar hyn o bryd.


Campaign Downloads

Heb ganfod dim

County Impacted

  1. Sir Gâr

Species Impacted

  1. Gwirer Goch
  2. Barcud Coch