Bydd eich cyfraniad yn helpu INCC i ariannu gwaith cadwraeth pwysig, gan gynnwys:
- Ymgyrchoedd a chamau cyfreithiol
- Prosiectau rhywogaethau a chynefinoedd
- Cyfranogiad cymunedol, addysg ac ymchwil
Fel Cefnogwr INCC byddwch yn derbyn pecyn croeso a gohebiaeth achlysurol ynghylch ymgyrchoedd, prosiectau a chyfleoedd gwirfoddoli pwysig.
Tanysgrifiadau cefnogwyr blynyddol
Dewch yn gefnogwr INCC
Trefnwch Rodd Flynyddol a dewch yn aelod.
Fel aelod byddwch yn derbyn bathodyn pin INCC yn ogystal â diweddariadau chwemisol ar ein prosiectau ac ymgyrchoedd a ffyrdd pellach y gallwch gymryd rhan.
- £10 – gallai helpu i blannu blodau gwyllt brodorol ar gyfer prosiectau adfer cynefinoedd a rhywogaethau.
- £20 – gallai gefnogi gwirfoddolwyr a myfyrwyr i wneud gwaith ymchwil hanfodol a phrosiectau cadwraeth rhywogaethau.
- £30 – gallai helpu i arbed safleoedd bywyd gwyllt pwysig drwy ymgyrchoedd a heriau cyfreithiol.


Dewch yn gefnogwr INCC + Tanysgrifiwch i Natur Cymru
Trefnwch rodd flynyddol i gefnogi ein gwaith a thanysgrifiwch i gylchgrawn dwyflynyddol Natur Cymru.
Dewiswch faint hoffech chi gyfrannu
Lleiafswm o £40 y flwyddyn
Tanysgrifiwch i Natur Cymru
64 tudalen yn llawn erthyglau a darluniau o’r safon uchaf
Cyhoeddir erthyglau yn eu hiaith wreiddiol gyda chrynodeb byr yn y Gymraeg NEU'r Saesneg (mae cyfieithiadau Saesneg o erthyglau Cymraeg ar gael ar y wefan yn yr ardal "Rheoli Cyfrif").
£30.00 / year


Tanysgrifiad Rhodd Blwyddyn i Natur Cymru
Cylchgrawn dielw yw Natur Cymru a gyhoeddir ddwywaith y flwyddyn ac sy’n cynnig gwerth gwych - 64 tudalen yn llawn erthyglau a darluniau o’r safon uchaf.
Cyhoeddir erthyglau yn eu hiaith wreiddiol gyda chrynodeb byr yn y Gymraeg NEU’r Saesneg (mae cyfieithiadau Saesneg o erthyglau Cymraeg ar gael ar y wefan yn yr adran aelodau yn unig)
£30.00 for 1 year
Cymorth Cyfreithiol
Helpwch ni i frwydro dros natur yng Nghymru drwy gyfrannu tuag at ein Cronfa Cymorth Cyfreithiol.
Bydd rhoddion yn helpu i dalu costau ffioedd cyfreithiol ac ymchwiliadau casglu tystiolaeth.

Gwnewch gyfraniad untro
CYFRANNU CYFLYM GYDA PAYPAL
Am rodd untro hynod gyflym rydym yn derbyn taliadau drwy PayPal
Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch tanysgrifiadau a rhoddion eraill at:
Enw: Rob Parry
Ebost: info@incc.wales
Ffôn: 01558 667181