Mae’r Fenter ar gyfer Cadwraeth Natur Cymru (INCC) yn Sefydliad Elusennol Corfforedig a sefydlwyd yn 2018 (rhif elusen 1180113) i wasanaethu bywyd gwyllt Cymru a’r bobl sy’n gofalu am fyd natur ac yn ei werthfawrogi. Mae’r INCC yn gweithredu ar sail cylch gwaith i Gymru gyfan. Ei chenhadaeth yw ‘bod y llais cryf heb ei rwystro y mae ar fywyd gwyllt Cymru ei angen, gan godi llais a rhoi anghenion bywyd gwyllt yn gyntaf’.

Mae’r INCC wedi dod yn gyfrifol am gylchgrawn Natur Cymru yn 2020, i fod ar gael i gefnogwyr yr elusen. Yn y gorffennol, roedd yn cael ei gyhoeddi gan gwmni nid-erelw. Mae’r defnydd o’r Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg yn Natur Cymru yn adeiladu ar y ddarpariaeth yn y gorffennol ar gyfer y ddwy iaith yn y cylchgrawn ac yn galluogi i’r INCC gyfathrebu’n fwy effeithiol am ei gwaith, ac am fywyd gwyllt yng Nghymru.

Mae’n gwneud y cylchgrawn ei hun yn fwy hygyrch i bobl Cymru, y mae tua 1 o bob 5 (ac yn cynyddu) ohonynt yn siarad Cymraeg, yn ôl data’r cyfrifiad cenedlaethol yn

Mae Cymru’n genedl gwbl ddwyieithog a bydd defnyddio’r ddwy iaith yn hanfodol i’r INCC i ymgysylltu’n effeithiol â’r rhai rydym eisiau dylanwadu arnynt, yn ogystal â’r rhai sydd eisoes yn cefnogi ein gwaith. Wrth i’r INCC weithio tuag at ddarpariaeth gyfartal sy’n ddyhead gennym ni, yn unol
â Deddf yr Iaith Gymraeg, byddwn yn gweithio i alluogi i ohebwyr a chyfranwyr Natur Cymru gyfathrebu â ni yn eu dewis iaith. Dros amser, byddwn yn gwella ein darpariaeth Gymraeg.