Diweddariad ar Brosiect Britheg y Gors Rhagfyr 2023

Mae dros flwyddyn wedi mynd heibio ers ein diweddariad diwethaf ar brosiect atgyfnerthu poblogaeth Britheg y Gors ac mae llawer wedi digwydd ers hynny, ar Gomin Llantrisant ac yn y corlannau magu yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol. Yn y diweddariad diwethaf roedden ni ar fin dechrau rhyddhau’r sypiau nesaf o lindys ar y comin. Casglodd staff a gwirfoddolwyr INCC lindys yn ofalus oddi ar y planhigion Tamaid y Cythraul yn y corlannau magu a’u trosglwyddo i gorlannau bach yn barod i’w cludo i’r Comin.

Mae’r prosiect atgyfnerthu yn rhan o strategaeth dirwedd ehangach sy’n gobeithio gweld mwy o ardaloedd o gynefin mewn cefn gwlad ehangach mewn cyflwr da ar gyfer Britheg y Gors a rhywogaethau eraill.

Un elfen o’r strategaeth yma yw sicrhau rheolaeth addas ar ardaloedd o laswelltir corsiog (pori gan wartheg yn ddelfrydol). Y nod yw cael strwythur y cynefin yn iawn (ddim yn rhy dal, ddim yn rhy fyr) ond mewn rhai achosion mae angen help llaw ar y safleoedd os nad oes ganddyn nhw niferoedd da o blanhigion Tamaid y Cythraul.

Ymwelwyd ag un safle o’r fath yn Rhondda Cynon Taf ddiwedd 2022 gyda staff a myfyrwyr o Goleg Pen-y-bont ar Ogwr. Fe aethon ni ati i blannu cannoedd o eginblanhigion Tamaid y Cythraul yn y gobaith y byddent yn sefydlu ac yn dechrau gwneud y safle yn addas ar gyfer Britheg y Gors. Fe wnaethin ni ymweld â’r safle eto ddiwedd yr haf 2023 i weld y Tamaid y Cythraul yn gwneud yn dda a strwythur y cynefin yn gwella hefyd.

Ellyn yn hel lindys o gorlan fagu.

Delwedd thermol o lindys torheulo.

Mae diwedd yr hydref a’r gaeaf yn gyfnod tawel yn draddodiadol i’r prosiect gan fod y lindys wedi dechrau gaeafgysgu yn y corlannau magu ac allan ar y comin. Maen nhw’n creu gwe drwchus i lawr yn isel mewn llystyfiant twmpathog (neu yn y gwair sy’n cael ei ddarparu yn y corlannau magu) ac yn aros yno tan ddyddiau heulog cyntaf y gwanwyn cynnar.

Bydd y lindys yn dod allan i dorheulo yn gynnar yn y flwyddyn nesaf – fel arfer tua diwedd mis Chwefror / dechrau mis Mawrth ond, os yw’r haul yn ddigon cryf, byddant yn dod allan yn gynharach i dorheulo ar lystyfiant. Eleni roedd y rhai cyntaf welson ni yn y corlannau magu wedi dod i’r golwg ddiwedd mis Ionawr ac fe wnaethon ni ddechrau gweld mwy a mwy yn y corlannau ac wedyn ar y Comin yn ystod yr wythnosau nesaf.

Rhyddhawyd mwy o’r lindys yma drwy gydol y gwanwyn gan ein bod ni eisiau gwagio’r corlannau er mwyn cael gwared ar y risg o fewnfridio’r unigolion oedd ar ôl. Fe gawson nhw eu gosod mewn ardaloedd o gynefin da heb unrhyw lindys wedi’u rhyddhau ynddyn nhw hyd yma.

Lindys Britheg y Gors yn y gwanwyn.

Wrth i’r haf fynd yn ei flaen roedd staff a gwirfoddolwyr INCC yn ymweld â’r Comin yn rheolaidd i fonitro dosbarthiad y glöynnod byw. Mae’n wefr o hyd, gweld y boblogaeth newydd yn ymledu’n araf ar draws y Comin.

Gwirfoddolwyr yn rhyddhau lindys ar Gomin Llantrisant.

Rhyddhawyd y lindys olaf ym mis Gorffennaf 2023, yn fuan ar ôl hyn, dechreuodd Carys Romney, ynghyd â phlant o’r ysgol gynradd leol, gasglu hadau Tamaid y Cythraul o safleoedd cyfagos, fel y llynedd. Mae’r hadau yma wedi cael eu cludo i Goleg Pen-y-bont ar Ogwr i’w tyfu ymlaen yn eu hadran Garddwriaeth, gyda’r myfyrwyr yn defnyddio amodau tyfu gwahanol i asesu’r ffyrdd gorau o gael cymaint â phosib o Damaid y Cythraul. Bydd hwn eto’n cael ei ddefnyddio i lenwi’r corlannau magu yn ogystal â gwella’r cynefin glaswelltir corsiog yn yr ardal.

Plant ysgol yn casglu hadau Tamaid y Cythraul.

Tamaid y Cythraul yn ffynnu yng Ngholeg Pen-y-bont.

Cynhaliwyd arolygon gwe larfal yn gynnar ym mis Medi i weld pa mor dda roedden nhw’n gwneud a pha mor bell roedden nhw wedi lledaenu. Eto fe gawson ni fwy na 100 o weoedd larfal, ychydig llai na’r flwyddyn flaenorol ond yn parhau i fod yn ganlyniad gwych; mae’r tywydd wedi arwain at flwyddyn wael i bryfed yn gyffredinol.

Gwe larfal Britheg y Gors ar Gomin Llantrisant.

Gweoedd larfal ar Gomin Llantrisant yn 2023.

Adeg ysgrifennu’r diweddariad yma (Rhagfyr 2023) mae INCC ar hyn o bryd yn cyflwyno cais am drwydded i gasglu criw arall o lindys ar gyfer y ddwy flynedd nesaf o fagu mewn caethiwed. Os byddwn yn llwyddiannus, byddwn yn asesu pa safleoedd sydd â phoblogaethau digon gwydn i ganiatáu casglu nifer bach o lindys ym mis Mawrth 2024.

Unwaith eto, heb gefnogaeth cyllidwyr, gwirfoddolwyr, partneriaid y prosiect a phlant ysgol lleol a myfyrwyr coleg, ni fyddem wedi gallu cyrraedd y pwynt hwn, felly diolch i chi i gyd am eich cefnogaeth barhaus.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *