Tâl Teg am Waith Teg – Gwasanaeth Swyddi Cefn Gwlad

Yn ôl yn 2022, cynhaliodd INCC rywfaint o ymchwil i gyflogau ac amodau yn y sector cadwraeth, gan gyhoeddi’r ymchwil hwn yn Natur Cymru (rhifyn 65). Roedd yr erthygl yn tynnu sylw at y ffaith bod llawer o swyddi yn y byd cadwraeth, ar y pryd, yn cynnig cyflog gwael mewn perthynas â’r sgiliau a’r profiad oedd yn ddisgwyliedig gan yr ymgeiswyr. Tynnodd sylw hefyd at natur beryglus yr amodau cyflogaeth, yn enwedig i unigolion yn chwilio am waith ar ddechrau eu gyrfa, gyda llawer o gontractau’n rhai tymor penodol a / neu dymhorol – gan arwain at ganlyniadau gwael i unigolion ar draws hyfforddiant, cynnydd, a chyfleoedd personol fel sicrhau morgais.

Mae’r broblem hon yn rhan o ymgyrch tymor hwy ar gyfer INCC, sy’n credu ym mhwysigrwydd swyddi diogel a thâl cystadleuol os yw ein sector cadwraeth ni am lwyddo, a hefyd ei rôl o ran ein galluogi ni i ymgysylltu â’r cynulleidfaoedd amrywiol sydd arnom eu hangen er mwyn creu newid.

Ydi pethau wedi symud ymlaen ers i’r erthygl honno gael ei hysgrifennu? Beth yw’r problemau presennol sy’n wynebu’r rhai sy’n chwilio am waith ym maes cadwraeth? Y mis yma rydyn ni wedi bod yn falch iawn o gynnal ymchwiliad pellach i sut mae’r sector yn dod yn ei flaen, ac mae hyn wedi’i gyhoeddi’n ddiweddar gan y Gwasanaeth Swyddi Cefn Gwlad (CJS).

Diolch yn fawr iawn i CJS am roi cyfle i ni weithio gyda nhw i dynnu sylw at rai o’r pryderon hyn.

Gallwch ddarllen yr erthygl yma: Value and vocation: the current state of pay and prospects in conservation (countryside-jobs.com)

Prif wefan y Gwasanaeth Swyddi Cefn Gwlad: Countryside Jobs Service (countryside-jobs.com)

Yr erthygl wreiddiol yn Natur Cymru (2022) yma: https://www.natureconservation.wales/cy/campaign/cyflog-teg-am-waith-teg/

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *