Croeso i gylchlythyr yr Hydref / Gaeaf INCC, sy’n crynhoi rhai o’r prosiectau cadwraeth niferus rydyn ni’n eu cynnal ar gyfer bywyd gwyllt ledled Cymru. Dros y misoedd diwethaf mae’r staff a’r ymddiriedolwyr wedi bod yn gweithio’n galed yn codi arian ar gyfer ein Prosiect Ymchwilio i Natur, ac os bydd yn llwyddiannus bydd tîm ymroddedig o newyddiadurwyr ac ymchwilwyr yn cael ei sefydlu i ymchwilio i faterion sy’n effeithio ar fyd natur a’r sector cadwraeth natur yng Nghymru.
Mae gennym ni lawer o waith i’w wneud eto. Os gallwch chi helpu mewn unrhyw ffordd, ystyriwch gyfrannu at y prosiect yn: Cyfrannu – Menter ar gyfer Cadwraeth Natur Cymru