Issue 48

Natur Cymru Issue 48 cover

Meadows gan George Peterken
What Has Nature Ever Done for Us? gan Tony Juniper
Feral gan George Monbiot

Ein tudalen arferol gan elusen Buglife

Mewnwelediadau diddorol o Amgueddfa Genedlaethol Cymru

...

Mae popeth yn digwydd yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Blaise Bullimore

....

Ein cipolwg arferol ar yr ynysoedd oddi arfordir Cymru. Y tro hwn:

Yn dilyn gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae llyfr newydd wedi ysgogi trafodaeth am y ffordd yr ydym yn rheoli’n hucheldiroedd. A fydd hyn yn gadael argraff barhaol, neu a gaiff ei anghofio’n sydyn? LIZZIE WILBERFORCE sy’n ystyried rhai cyfyngiadau y tu ôl i weledigaeth arwynebol ddeniadol, ac mae ANDY JONES yn ymuno â’r drafodaeth.

Mae ucheldiroedd Cymru wedi cael cryn dipyn o feirniadaeth yn ddiweddar am ddwyster rheolaeth y tir a’r diffyg egni naturiol. Mewn cyferbyniad â’r farn ddiobaith hon, mae un Warchodfa Natur Genedlaethol ucheldirol wedi tyfu’n fwy amrywiol a deniadol, fel y mae BARBARA JONES a DAVID PARKER yn adrodd. Dylai roi hyder i’r rhai sy’n llunio polisïau ac i berchnogion tir, fod trawsnewidiad, mewn rhai lleoliadau yn bosibl ac yn ddymunol.

Mae dod ag anifail mawr brodorol fel yr afanc yn ôl i gefn gwlad Cymru yn bell o fod yn pleidio achos ‘ail -wylltio ‘ hunanfoddhaol. Mae’n gofyn am adeiladu pontydd, wynebu pryderon y rhai a allai gael eu heffeithio; ystyried y problemau ymarferol, gweld y manteision, llunio cynlluniau wrth gefn – gwaith trylwyr iawn. Ers i’r erthygl ddiwethaf ar afancod ymddangos yn Natur Cymru (22:8), gwnaed cynnydd sylweddol , fel yr adrodda ADRIAN LLOYD JONES.

Does dim llawer ohonom sy’n tyfu i fyny ynghanol caeau a chloddiau yn gwybod enwau’r rhan fwyaf o’r blodau a welwn bob dydd. Gall athro ysbrydoledig newid hynny. Mae rhestr NEIL LUDLOW o’r planhigion ar ei fferm yn darlunio amrywiaeth liwgar un fferm fechan syml, cyfoeth y mae’n gobeithio ei ailddarganfod yn y dyfodol.

PAT O’REILLY sy’n cael diddanwch diwaelod ym myd y ffyngau.

Yn haf 2012, gwnaeth RHIANNON BEVAN a DAN FORMAN astudiaeth ecolegol ar blanhigyn cynhaliol larfa’r Gliradain Gymreig, yn y gobaith o gael gwell dealltwriaeth oi hanghenion cynefin. Yma maent yn disgrifio’r hyn a wyddom am y pryfyn hynod hwn, beth a ddarganfuwyd ganddynt, a beth sydd eto i’w ddarganfod: gallai’ch sylwadau chi helpu i ddiogelu ei ddyfodol yng Nghymru.

Nid peth newydd yw cynlluniau trydan-dŵr yn Eryri. Yma mae TWM ELIAS yn olrhain peth o hanes y cynlluniau hyn ac yn sôn yn benodol am y twrbein sydd newydd ei agor yn swyddogol ar dir Plas Tan-y-Bwlch eleni – y trydydd cynllun o’i fath yn y Plas. Mae hefyd yn disgrifio’r ystyriaethau ecolegol a oedd yn allweddol i lwyddiant y prosiect.

Mae trafferthion gwenyn a phryfed peillio eraill wedi cyffwrdd dychymyg y cyhoedd, ac mae’n bryder ymarferol oherwydd y goblygiadau economaidd. Bu Cyfeillion y Ddaear Cymru’n ymgyrchu am weithredu i fynd i’r afael â’r broblem, ac mae eu syniadau a’u hawgrymiadau bellach yn rhan o Gynllun Gweithredu gan Lywodraeth Cymru, fel yr eglura BLEDDYN LAKE.