Gan fod mwy o bobl nag erioed o’r blaen yn awyddus i gofnodi a chyfrannu eu harsylwadau o fyd natur, mae’r atlas Gwas y Neidr diweddaraf wedi gallu rhoi darlun llawer llawnach o ddosbarthiad gwas y neidr yng Nghymru na’r wybodaeth flaenorol, yn seiliedig ar eu cofnodion. Mae BRIAN WALKER a CLAIRE INSTALL yn edrych ar ledaeniad y rhywogaeth newydd i Gymru a’r rhesymau pam y gall hyn fod yn digwydd.
Aber Dyfrdwy yw un o’r aberoedd pwysicaf y DU am ei gynefinoedd rhynglanwol eang a’i niferoedd anhygoel o adar dŵr – adar gwyllt, rhydyddion, crehyrod, morfrain a gwenoliaid y môr – sydd yno drwy gydol y flwyddyn, ond yn arbennig yn y gaeaf. Yma mae NEIL FRISWELL a COLIN WELLS yn disgrifio’r aber a sut y cyfrifwyd yr adar yno yn ystod y 30 mlynedd ddiwethaf diolch i Arolwg Adar y Gwlyptiroedd sy’n adnabyddus rhyngwladol.
Yn Rhan 1 a Rhan 2 o’r gyfres hon (Natur Cymru 50 a 51) amlinellwyd y mathau o ddata dyddiadurol Cymraeg a geir yn Y Tywyddiadur, sy’n rhan o wefan Llên Natur. Cyflwynwyd hefyd rywfaint o’r astudiaethau achos penodol a gododd o ymchwilio bron 90,000 o gofnodion Y Tywyddiadur. Y tro hwn mae DUNCAN BROWN a TWM ELIAS yn trafod cofnodion o ddyddiaduron a phapurau newydd sy’n cyfrannu at y dystiolaeth a’r drafodaeth ynglŷn â’r cyfnod hir o sychder eithriadol a effeithiodd yn sylweddol ar Ewrop ar ddiwedd y 19eg Ganrif.
Cafwyd newydd da yn 2014 o Shotton, Sir y Fflint, cartref y nythfa fwyaf o forwenoliaid cyffredin yng Nghymru: roedd adar yn bridio’n llwyddiannus, gyda lleiafrif o 445 cyw yn deor, am y tro cyntaf ers i’r nythfa fethu bridio yn 2009. Mae Grŵp Modrwyo Glannau Merswy wedi bod yn gysylltiedig â’r nythfa o’r dechrau sef 45 mlynedd yn ôl. Mae PETER COFFEY, aelod o’r grŵp yn egluro datblygiad y nythfa a’i harwyddocâd yn genedlaethol, ac yn archwilio pam y methodd y nythfa fridio, ac mae’n disgrifio’r hyn sydd wedi digwydd ers hynny.
Cyflwynwyd gwarchodfa natur Corsydd Teifi i ddarllenwyr Natur Cymru am y tro cyntaf yn ôl yn hydref 2004 (Natur Cymru 12). Mae’r warchodfa, sy’n dal yn cael ei rheoli gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru, wedi newid yn sylweddol ers hynny. Mae NATHAN WALTON yn rhoi diweddariad inni ar sut mae’r safle arbennig hwn a’i gynefinoedd a’i rywogaethau yn cael eu rheoli, ac yn egluro pam y mae’n un o wlyptiroedd pwysicaf Cymru.
Mae’r Brychan Pennau Saethau yn wyfyn hardd sy’n hedfan yn ystod y dydd. Mae dosbarthiad y gwyfyn hwn yn gyfyngedig yng Nghymru a Lloegr. Mae ANDREW GRAHAM yn disgrifio ei gysylltiad â helygen Mair, ac yn annog naturiaethwyr eraill i ganfod nythfeydd newydd drwy wneud gwaith ditectif y tu allan i dymor hedfan y gwyfyn.
Mae tŷ hanesyddol, a chartref y Prif Weinidog David Lloyd George, a’i gefndir trawiadol o fywyd gwyllt, yn lleoliad symbylol ar gyfer pob math o lenyddiaeth sy’n disgrifio’r amgylchedd naturiol. Mae ROBERT MINHINNINK yn myfyrio ar ei brofiad ei hun o Ganolfan Ysgrifennu Cymru.
Unwaith mae safleoedd o bwysigrwydd eithriadol yn dod yn Warchodfeydd Natur Cenedlaethol dylai eu dyfodol fod yn ddiogel, ond anaml y clywir yr hanesion y tu ôl i’r broses o’u diogelu. Nid yw’r caffael y safleoedd yn broses hawdd na chyflym; yn achos Cors Fochno, cymerodd fwy na 30 mlynedd a bu bron i’r broses fethu. Yma, mae PETER WALTERS DAVIES a JAMES ROBERTSON yn disgrifio rhai o droeon trwstan y gwaith o sefydlu Gwarchodfa Natur Genedlaethol.
Seashores: An Ecological Guide gan Julian Cremona
The Ash Tree gan Oliver Rackham
Mewnwelediadau diddorol o Amgueddfa Genedlaethol Cymru
Casgliad o sleidiau 3D yn Amgueddfa Cymru
Kath Slade
Morfil sberm lleiaf byw yn cael ei adael ar arfordir Ynys Môn.
Ceri Morris
Mae popeth yn digwydd yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
Rhedeg fferm ar Warchodfa Natur Genedlaethol yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
Bruce Langridge
Gan Charlotte Gjerlov
Ein cipolwg arferol ar yr ynysoedd oddi arfordir Cymru. Y tro hwn:
Newyddion o Ynysoedd Sgomer a Sgogwm
Geoff Gibbs
Yn dilyn gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru
Monitro alltraeth gyda CEFAS a Cyfoeth Naturiol Cymru
Anthony Barker
Bywyd ar y stryd: pleserau planhigion y palmant
John Crellin
Ein tudalen arferol gan elusen Buglife
Pryfed afon yng Nghymru
Craig Macadam
Newyddion gan Coed Cadw, ymddiriedolaeth coetir Cymru
All Coetiroedd Hynafol fod yn fanteisiol i ffermwyr a chael effaith andwyol ar fantolen y fferm?
Christopher Matts