Rhif 55

Natur Cymru -55-Summer-2015-cover

Yn dilyn gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru

Yr Awydd i Losgi – tanau gwyllt yng nghymoedd De Cymru

Huw Williams

Pwysigrwydd haneswyr naturiol

Ivor Rees

Mae prinder cynyddol peillwyr gwyllt megis gwenyn unig, cacynnau a phryfed hofran wedi achosi pryder cyhoeddus a gweithredu gwleidyddol. Allwn ni ddisgwyl i hyn ddwyn ffrwyth ac atal y prinder neu a oes yna’n dal ragor i’w wneud? MIKE HOWE sy’n ystyried y rhagolygon.

Mae’r mwyafrif ohonom yn gyfarwydd a’r term ‘llygredd’. Ond mae’n siwr ein bod ni’n dueddol o’i gysylltu’n bennaf gyda llygredd aer o ganlyniad i effeithiau nwyon diangen ar yr atmosffer, neu gyda llygredd dŵr a achosir gan gemegolion neu arllwysiad olew. Yn yr erthygl hon mae GETHIN DAVIES yn trafod math llai cyfarwydd o lygredd sydd ar gynnydd drwy’r byd, sef llygredd golau.

Daeth glaw trwm 2012 â diflastod i lawer ond, doedd yna ddrwg i neb nad oedd o’n dda i rywun, medde nhw … Efallai nad oedd neb wedi sylwi ar y chwilen ddaear las mewn coetir yn ne Cymru am flynyddoedd maith, ond wrth i’r dŵr godi mewn nant sylwodd rhywun craff oedd yn byw gerllaw arni a chysylltu â Buglife. JOHN WALTERS, CHRISTOPHER MATTS a CLARE DINHAM sy’n adrodd y stori.

Ym 1965, penderfynodd DAVID SAUNDERS, warden Ynys Sgomer ar y pryd, wneud pwll bychan yn fwy er mwyn denu rhagor o fywyd gwyllt – rhywbeth dewr a llwyddiannus, fel mae’n cofio yma.

Am ddau ddegawd, bu’r RSPB yn defnyddio dulliau arloesol i droi rhai caeau llawn brwyn yn gynefinoedd amrywiol i adar a llawr o fywyd gwyllt arall. IAN HAWKINS sy’n disgrifio sut y defnyddiwyd peiriannau arbenigol i agor a chynnal cynefinoedd deinamig yn ogystal â’r canlyniadau i rai planhigion ac anifeiliaid prin.

Nid yw Cymru, yn draddodiadol, yn enwog am ei ffosiliau deinasoriaid ond efallai y bydd darganfyddiad diweddar yn 2014 yn newid hyn. Pan ofynnwyd i CINDY HOWELLS adnabod rhai olion ar draeth yn ne Cymru sylweddolodd ei bod yn edrych ar olion rhywogaeth nad oedd neb wedi’i weld o’r blaen a fydd yn rhoi Cymru ar y map therapod…

Dim ond mewn rhai mannau’n unig ym moroedd Cymru y mae morwellt yn ffurfio dolydd eang, bioamrywiol a chynhyrchiol. RICHARD UNSWORTH sy’n ystyried y rhan mae dolydd morwellt yn ei chwarae fel meithrinfeydd i bysgod ifanc, bregusrwydd y cynefin arbennig hwn a rhai camau i’w cadw.

Mae’n eithaf anodd canfod llawer o’n mamaliaid yn y maes ac yn aml mae’n haws chwilio am eu baw a’u hôl traed. Mae MAL INGHAM wedi gosod naw camera llwybr ger ei ardd ac mae’n sôn wrthym beth mae’n gallu eu gwylio, gan gynnwys moch daear, dyfrgwn, ffwlbartiaid ac un newydd dyfodiad – muntjac Reeves.

Fel petai pethau ddim yn ddigon drwg yn barod ar fagïod, mae goleuadau stryd yn un o’u lleoliadau gorau yng ngogledd Cymru wedi bod yn drysu’r rhai gwryw, sydd wedi troi eu cefnau ar y rhai benyw a’u gadael heb gariadon. Gan ANNE BUTLER y mae’r manylion yr hyn, diolch i hyrwyddwr lleol a chydweithrediad pawb, oedd yn ganlyniad hapus.

The Wales Coast Path – a Practical Guide for Walkers gan Christopher Goddard & Katherine Evans
Nature in Towns and Cities gan David Goode
Rust Fungus Red Data List and Census Catalogue for Wales gan Ray G. Woods, R. Nigel Stringer, Debbie A. Evans and Arthur O. Chater
Britain’s Habitats gan Sophie Lake, Durwyn Liley, Robert Still & Andy Swash
Threatened Arable Plants in Wales – Plantlife
Threatened Arable Plants in Wales – Plantlife

Ein tudalen arferol gan elusen Plantlife

Fflora anghofiedig Cymru – chwyn âr!

Colin Cheesman

Afon Elwy – gofalu am afon
David Iorwerth Roberts

Mae’r cyfan yn y meddwl – newid canfyddiadau ynghylch sut y dylai’r tir edrych

Ivy Denham

Newyddion gan Coed Cadw, ymddiriedolaeth coetir Cymru

Dysgu i garu gwlithen ryfeddol o arwyddocaol

Kylie Jones Mattock