Mae INCC wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid yn Nyffryn Aman i ddechrau adfer cynefinoedd, gan gynnwys glaswelltir corsiog a dolydd.
Cynhaliwyd arolwg cynefin o ran helaeth o Ddyffryn Aman gan Gyngor Sir Caerfyrddin (CSC) yn 2020. Mapiodd yr arolwg y cynefinoedd yn y dirwedd sydd o bwysigrwydd arbennig ar gyfer bioamrywiaeth. Cofnodwyd cyfanswm o 324 o adrannau cynefinoedd unigol o fathau o gynefin lled-naturiol, yn gorchuddio mwy na 950ha o gynefin.
Y cynefin cyfunol mwyaf o ran arwynebedd oedd coetir, gan gynnwys gwrychoedd. Gellir dod o hyd i gynefin coetir o wahanol oedrannau ac ansawdd ecolegol ledled y dirwedd. Blociau coetir mwy sy’n gysylltiedig ag Afon Aman a’i llednentydd.
Un o gynefinoedd bywyd gwyllt pwysicaf y dyffryn yw glaswelltir corsiog, sydd wedi’i ddosbarthu’n eang ledled y dirwedd. Mae’r cynefin glaswelltir corsiog mewn sawl ardal yn gartref i löyn byw prin Britheg y Gors (Euphydryas aurinia). Mae’r glöyn byw yma wedi wynebu dirywiad trychinebus ledled llawer o Ewrop a’r DU yn ystod y degawdau diwethaf. Er bod Cymru yn parhau i fod yn gadarnle cymharol iddo, hyd yn oed yma mae llawer o ddifodiant lleol wedi digwydd.
Mae dirywiad y rhywogaeth yn gysylltiedig â cholli ei chynefin glaswelltir corsiog a phorfa rhos. O’u rheoli’n briodol, mae’r cynefinoedd hyn yn darparu’r strwythur gwyndwn delfrydol sydd ei angen ar y lindys a’u planhigyn bwyd (Tamaid y Cythraul (Succisa pratensis)). Mae colli cynefinoedd glaswelltir llawn rhywogaethau, drwy ddwysáu amaethyddol yn bennaf, wedi arwain at dirweddau darniog sy’n cynnal llai a llai o ardaloedd sy’n addas ar gyfer y rhywogaeth.
Mae INCC wedi bod yn gweithio gyda pherchnogion tir lleol a sefydliadau partner i helpu i adfer darnau o gynefin glaswelltir corsiog yn y dirwedd.
I helpu gydag adfer cynefinoedd, mae INCC wedi gosod polydwnnel mewn gardd bywyd gwyllt gymunedol newydd. Mae’r polydwnnel wedi’i osod yn ei le yn arbennig i dyfu amrywiaeth o flodau gwyllt brodorol a hyrwyddo garddio bywyd gwyllt.
Mae gwirfoddolwyr cymunedol wedi tyfu miloedd o blanhigion Tamaid y Cythraul, a channoedd yn rhagor o Garpiog y Gors (Lychnis flos-cuculi), Creulys y Gors (Jacobaea aquatica) a llawer o blanhigion eraill.
Ein prosiect adfer cynefin cyntaf yn Nyffryn Aman oedd adfer dôl laith hardd ym Mharc Golwg yr Aman yng nghalon y gymuned. Am nifer o flynyddoedd torrwyd y ddôl yn rheolaidd drwy gydol y flwyddyn fel glaswelltir dymunol. Gan weithio’n agos gyda Chyngor Tref Cwmaman sy’n rheoli’r parc, roedd modd i ni eu darbwyllo i roi’r gorau i dorri’r gwair yn ystod y tymor tyfu. Heddiw, mae’r ddôl laith yn un o’r glaswelltiroedd mwyaf amrywiol o ran blodau yn y Dyffryn.
Yng ngwanwyn 2021, plannodd INCC, ochr yn ochr â gwirfoddolwyr lleol, Cyngor Tref Cwmaman a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, lawer o’r eginblanhigion hyn. Mae’r planhigion yn helpu i adfer amrywiaeth flodeuog y glaswelltir corsiog ym Mharc Golwg yr Aman yn Nyffryn Aman, yn ogystal ag yng ngardd bywyd gwyllt INCC.
Diolch i gefnogaeth Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae gwaith adfer cynefinoedd eraill yn y Dyffyn wedi cynnwys cael gwartheg i bori ar safleoedd glaswelltir corsiog sydd wedi gordyfu. Gwartheg o frîd brodorol yw un o’r ffyrdd gorau o reoli cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt. Mae’r gwaith hwn wedi cynnwys contractwyr lleol yn gwella ffensys a gosod corlannau cadw a chafnau dŵr yn eu lle.
Mae’r gwaith o adfer dolydd blodau gwyllt wedi dechrau hefyd, gyda hadau wedi’u casglu yn lleol o’r Ardd Fotaneg yn cael eu gwasgaru ar ddolydd wedi’u gwella’n amaethyddol.
Yn ogystal â chynefinoedd glaswelltir, mae INCC hefyd wedi plannu perllan o amrywiaethau o goed ffrwythau lleol ac rydym wedi creu cannoedd o fetrau o wrychoedd.