Mae INCC yn gobeithio gwella ffawd un o adar ffermdir prinnaf a mwyaf lliwgar Cymru – y Bras Melyn (Emberiza citrinella). Bydd y prosiect yn cynnwys perchnogion tir a chadwraethwyr yn gweithio gyda’i gilydd ar gyfer y Bras Melyn a bywyd gwyllt arall ar fferm gymysg ym Mro Morgannwg.

Er mwyn helpu’r Bras Melyn a’r bywyd gwyllt ffermdir arall ar y fferm, bydd y prosiect yn plannu 10,000 metr sgwâr o gnwd gorchudd adar gwyllt llawn egni, wedi’i wasgaru dros wahanol rannau o’r fferm. Ni fydd y cnwd gorchudd yn cael ei gynaeafu ochr yn ochr â phrif gnydau grawn y fferm. Diolch i gefnogaeth gan Gymdeithas Adaregol Cymru (WOS), rydym eisoes wedi codi £700 tuag at gostau’r prosiect. Rydym nawr yn gobeithio codi £2,000 pellach.

Rhoddwch Os Gwelwch yn Dda

Yellowhammer Project

Category:

Bydd y cnwd gorchudd yn darparu amodau delfrydol ar gyfer adar sy’n nythu ar y ddaear yn y gwanwyn a’r haf, a miliynau o hadau llawn egni i adar ffermdir dros y gaeaf. Wrth flodeuo, bydd y cnwd gorchudd heb ei chwistrellu yn darparu cynefin i lawer o infertebrata, a fydd, yn eu tro, yn darparu bwyd i gywion.

Y rhywogaethau sy’n wynebu bygythiad arbennig oherwydd colli tir âr yw rhywogaethau o adar ffermdir sy’n ddibynnol ar hadau, fel y Bras Melyn (Emberiza citrinella) a’r Betrisen Lwyd (Perdix perdix), sydd eisoes wedi diflannu o’r rhan fwyaf o gefn gwlad Cymru. Mae’r gostyngiad mewn planhigion âr blynyddol ac ymylon cnydau llawn blodau gwyllt wedi arwain at golli safleoedd nythu, bwyd ar ffurf pryfed i gywion a hadau i’w cynnal nhw drwy fisoedd oer y gaeaf.

Yn ogystal â’r cnwd gorchudd, bydd ymylon caeau 6 i 8m o led llawn blodau gwyllt yn cael eu creu o amgylch yr holl gaeau âr ar y fferm. Bydd hyn yn cyfateb i sawl hectar o ddolydd blodau gwyllt a fydd yn darparu mwy fyth o gynefin i fywyd gwyllt y ffermdir.

Ymylon âr heb ei chwistrellu Clive Hurford
Blodau gwyllt âr wedi’u creu gan ymylon tyfu heb eu chwistrellu Llun Clive Hurford

Dywedodd Rhion Pritchard – Ymddiriedolwr gyda Chymdeithas Adaregol Cymru: “Mae’r Bras Melyn, oedd unwaith yn olygfa gyfarwydd yng Nghymru, mewn trafferthion. Mae canlyniadau Arolwg Adar Magu’r BTO yn dangos bod ei niferoedd wedi dirywio 79% yng Nghymru ers 1995, sef y dirywiad ail fwyaf o blith unrhyw rywogaethau o adar. Mae’n bleser gan Gymdeithas Adaregol Cymru felly allu cefnogi prosiect sydd â’r nod o hybu niferoedd y Bras Melyn ym Mro Morgannwg. Rydyn ni wedi ymweld â’r fferm dan sylw ac mae’n amlwg bod ganddi botensial aruthrol. Rydyn ni’n hyderus y bydd y prosiect hwn yn gwneud byd o wahaniaeth i’r Bras Melyn a rhywogaethau eraill sy’n bwyta hadau yn yr ardal hon ac rydyn ni’n annog pawb i gefnogi’r fenter gyffrous yma gan INCC”.

Yellowhammer. Clive Hurford