Prosiect Achub Llygoden Bengron y Dŵr

Newyddion cyffrous i INCC. Dros y 3 blynedd nesaf byddwn yn gwneud gwaith ymchwil pwysig ar gyfer Llygod Pengrwn y Dŵr yr ucheldir ym Morgannwg. Byddwn yn nodi pa mor dda y mae’r gwahanol boblogaethau wedi’u cysylltu, a pha rwystrau maen nhw’n eu hwynebu wrth wasgaru.

Mae Menter ar gyfer Cadwraeth Natur Cymru (INCC) yn gobeithio gwella ffawd un o rywogaethau mamaliaid prinnaf Cymru sy’n wynebu’r bygythiad mwyaf – Llygoden Bengron y Dŵr. Heb gymorth cadwraeth, mae’n debygol y bydd Llygoden Bengron y Dŵr, rhywogaeth hardd iawn a oedd unwaith yn gyffredin, yn diflannu o Gymru yn y dyfodol agos.

Bydd cyllid o Gronfa Gymunedol Pen y Cymoedd dros y tair blynedd nesaf yn galluogi INCC i wneud gwaith ymchwil hanfodol i boblogaethau o Lygod Pengrwn y Dŵr sy’n byw yn ucheldiroedd Morgannwg, y credir bellach ei fod yn un o’r rhanbarthau pwysicaf ar gyfer y rhywogaeth yng Nghymru.

Bydd swyddogion ac ymchwilwyr o INCC yn gweithio gyda chymunedau lleol, gwirfoddolwyr a sefydliadau partner i nodi’r holl boblogaethau presennol o Lygod Pengrwn y Dŵr yn yr ardal. Unwaith y byddant wedi cael eu darganfod a’u mapio, bydd y prosiect yn nodi unrhyw rwystrau i Lygod Pengrwn y Dŵr mewn ardaloedd ucheldirol a allai fod yn eu hatal rhag gwasgaru a sefydlu mewn cynefinoedd newydd ac addas.

“Rydyn ni’n gyffrous am gefnogi’r cynnig yma – mae’r gymuned wedi gofyn i’r gronfa gefnogi mentrau hinsawdd ac amgylcheddol sy’n gweithio gyda’r gymuned i ddatblygu a rheoli amgylcheddau naturiol lleol ac ysbrydoli’r gymuned i warchod a gwerthfawrogi ei hamgylchedd. Mae’r cynnig yma wedi bod yn cael ei ddatblygu ers tro ac mae ganddo gynllun clir, effaith eang a llawer o bartneriaid eraill yn gysylltiedig ac rydyn ni’n dymuno’r gorau iddyn nhw.”

Kate Breeze, Cyfarwyddwr Gweithredol, Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd.

Y prif ffactor sy’n effeithio ar Lygod Pengrwn y Dŵr yn y DU yw eu hysglyfaethu gan y Minc Americanaidd. Mae’r ysglyfaethwr estron yma wedi dileu Llygod Pengrwn y Dŵr o lawer o’u cynefin blaenorol. Mae’n well gan y Minc Americanaidd fyw yn afonydd yr iseldir a chorsydd arfordirol ac felly dim ond yn achlysurol y bydd yn sefydlu tiriogaeth yn ein hucheldiroedd ni yng Nghymru, sy’n amhosibl byw ynddyn nhw yn aml. Mae hyn yn rhoi cyfle i Lygod Pengrwn y Dŵr sy’n byw mewn ardaloedd ucheldirol oroesi. Fodd bynnag, mae bwyd ynni isel, llifogydd sydyn a gaeafau caled yn golygu y gall y poblogaethau yma fethu yn aml. Yn ogystal â Mincod Americanaidd achlysurol, efallai y bydd rhaid i Lygod Pengrwn y Dŵr yr ucheldir herio bygythiadau eraill hefyd, fel planhigfeydd coedwigaeth, coed conwydd sy’n hunanhadu, draenio tir a datblygiadau tyrbinau gwynt.

Bydd y prosiect yn cynnal ymchwil arloesol a fydd yn gwella ein dealltwriaeth ni o Lygod Pengrwn y Dŵr mewn tirweddau ucheldirol. Bydd posib perthnasu’r canfyddiadau hyn i Gymru gyfan, sy’n golygu y bydd posib gofalu’n briodol am y llochesi olaf ar gyfer Llygod Pengrwn y Dŵr, ar eu cyfer hwy a’r bywyd gwyllt arall sydd ar y dibyn.

“Un elfen gyffrous o’r prosiect fydd gweithio gyda chymunedau a gwirfoddolwyr i sicrhau eu bod wrth galon y gweithredu cadwraeth ar gyfer Llygod Pengrwn y Dŵr yn lleol. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda chymunedau lleol i dynnu sylw at ba mor bwysig yw eu tirwedd nhw i’n bywyd gwyllt prinnaf ni”.

Rob Parry – Prif Swyddog Gweithredol, Menter ar gyfer Cadwraeth Natur Cymru

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *