Er bod Dyffryn Aman yn gartref i rai rhywogaethau cenedlaethol brin, ychydig o wybodaeth am fioamrywiaeth yr ardal sydd ar gael.

Mae INCC bob amser wedi bod yn awyddus i dynnu sylw at bwysigrwydd Dyffryn Aman ar gyfer bioamrywiaeth. Y ffordd orau o wneud hynny yw drwy gynnal arolygon ecolegol. Mae nodi presenoldeb a dosbarthiad rhywogaethau penodol yn galluogi INCC i gyflawni prosiectau cadwraeth sydd wedi’u targedu’n well.

Mae cofnodi rhywogaethau penodol yn golygu y bydd y rhywogaethau hynny a’u cynefinoedd yn cael mwy o warchodaeth drwy’r system gynllunio. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy greu Safleoedd o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur (SINCs).

Mae gwirfoddolwyr lleol o’r gymuned wedi gallu chwarae rhan flaenllaw yn yr arolygon ecolegol. Mae arolygon a dyddiau hyfforddi ar gyfer gwirfoddolwyr wedi’u trefnu eisoes ar gyfer y Pathew, ystlumod a Britheg y Gors.

Gwirfoddolwyr cymunedol yn cynnal arolwg Pathewod yn Nyffryn Aman

Diolch i gefnogaeth Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, bydd yr arolygon ecolegol yn parhau ledled y dyffryn am y blynyddoedd nesaf. Bydd hyn yn ychwanegu at ein dealltwriaeth leol a chenedlaethol o lawer o rywogaethau a’u cynefinoedd.

Un rhywogaeth allweddol y mae’r arolygon wedi’i thargedu yw’r Draenog (Erinaceus europaeus). Mae Draenogod wedi dioddef dirywiad enbyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae’n amlwg bod angen gwneud mwy i atal Draenogod rhag diflannu o Gymru yn ystod y degawdau nesaf.

Draenog Dyffryn Aman mewn bocs Draenog

Bydd dod i ddeall am ddosbarthiad Draenogod ledled Dyffryn Aman yn helpu i nodi mesurau cadwraeth wedi’u targedu. Gall y rhain gynnwys creu gwrychoedd, sicrhau bod posib symud drwy erddi a darparu bwyd artiffisial.

Mae INCC wedi bod yn profi cynllun bocsys Draenogod i helpu draenogod yn Nyffryn Aman. Bellach mae posib bwydo draenogod o dan eu pwysau yn yr hydref i’w helpu i oroesi misoedd y gaeaf. Mae hyn hefyd yn helpu i gynyddu’r boblogaeth fagu y flwyddyn ganlynol.

Rhaid sicrhau cydbwysedd gan fod rhaid i focsys fod yn hygyrch i Ddraenogod ond yn anhygyrch i gathod dof. Gyda help a chefnogaeth gwirfoddolwyr cymunedol, mae INCC yn gwneud ac yn dosbarthu bocsys Draenogod ledled y gymuned (link). Bydd hyn yn helpu gyda dod i ddeall am ddosbarthiad Draenogod a’u helpu i oroesi’r gaeaf.

Nid yw bob amser yn gweithio ac mae rhai cathod yn mynd i mewn

Mae’r arolygon eraill yn cynnwys y Gwybedog Brith (link), blodau gwyllt, a gwyfynod.

Arolwg gwyfynod yn yr ardd bywyd gwyllt