Wrth galon gwaith INCC yn Nyffryn Aman mae cadwraeth natur gymunedol.

Mae pobl leol o bob oedran a gallu yn gallu chwarae rhan uniongyrchol mewn helpu i warchod bywyd gwyllt yn eu tirwedd. Mae INCC wedi bod yn gweithio gyda thrigolion y Dyffryn ers dros 5 mlynedd i ennyn brwdfrydedd pobl leol a’u cynnwys yn yr ymwneud â’r bywyd gwyllt o’u cwmpas.

Dros y blynyddoedd diwethaf trefnwyd digwyddiadau cymunedol gyda chefnogaeth Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Cyngor Tref Cwmaman a Dyfarniadau i Bawb y Loteri Genedlaethol. Bwriad y digwyddiadau yw tynnu sylw at bwysigrwydd ecolegol Dyffryn Aman ac ysbrydoli cymunedau lleol i gymryd rhan mewn cadwraeth natur.

Dyffryn Aman yn y gwanwyn

Mae aelodau o’r gymuned wedi bod yn amhrisiadwy wrth helpu i adeiladu nifer o focsys bywyd gwyllt ar gyfer Pathewod, Ystlumod, Draenogod, ac adar gan gynnwys y Gwybedog Brith a’r Cudyll Coch. Mae plant ysgol lleol wedi dod yn hyrwyddwyr Draenogod yn y Cwm ac wedi addurno nifer o focsys Draenogod yn ddiweddar, ac mae un ohonynt wedi’i osod ar dir yr ysgol, a bydd eraill yn cael eu dosbarthu o amgylch y Cwm.

Mae teithiau cerdded bywyd gwyllt tywys ar gyfer cymunedau lleol wedi cael eu cynnal bob blwyddyn ers 2019. Roedd llawer o drigolion lleol yn gallu gweld y bocsys nythu y gwnaethant helpu i’w gwneud yn cael eu defnyddio gan y gwybedog brith ac adar eraill y coetir. Cynlluniwyd y teithiau bywyd gwyllt i ysbrydoli pobl am fywyd gwyllt lleol ac roeddent yn cynnwys amrywiaeth o gynefinoedd Dyffryn Aman. Mae’r cynefinoedd yn y dyffryn yn cynnwys rhostir ucheldirol, mign, coetir, cors, dôl, prysgwydd ac afon a nant.

Taith gerdded gwanwyn o amgylch Dyffryn Aman (Llun (c) Ellyn Baker)

Mae teithiau cerdded eraill wedi canolbwyntio ar ystlumod, corws y wawr, blodau gwyllt a mwy. Roedd y teithiau cerdded, ynghyd â dyddiau i wirfoddolwyr yn gwneud bocsys nythu i adar y coetir, yn garreg gamu i bobl o bob oedran archwilio bywyd gwyllt y dyffryn a chymryd mwy o ddiddordeb yn ei gadwraeth.

Gwrando am Cwcw ar taith cerdded corws y wawr (Llun (c) Carla Williams)

Arweiniodd llwyddiant y prosiect cadwraeth natur cymunedol gwreiddiol at ddatblygu nifer o brosiectau cadwraeth rhywogaethau a chynefinoedd eraill. Yn ddiweddar mae INCC wedi gallu cyflogi unigolyn i gynnal prosiectau Draenogod a Gwenoliaid y Bondo yn y Dyffryn. Fel rhan o hyn, bydd dwsinau o focsys Draenogod yn cael eu dosbarthu i drigolion, a bydd cwpanau nythu arbenigol i Wenoliaid y Bondo yn cael eu gosod ar adeiladau mewn llecynnau sy’n addas i’r rhywogaeth.

Gwenoliaid y Bondo casglu mwd i’w nyth

Yn gynnar yn 2020, llwyddodd INCC i greu polydwnnel cymunedol sy’n benodol ar gyfer tyfu blodau gwyllt a hyrwyddo garddwriaeth gynaliadwy a garddio er budd bywyd gwyllt. Gyda chefnogaeth gan bartneriaid a chymunedau lleol, llwyddodd INCC i ddatblygu a lansio’r ‘Weledigaeth ar y Cyd ar gyfer Cadwraeth Natur yn Nyffryn Aman’. Mae’r ddogfen yn gosod y sylfaen ar gyfer holl weithgareddau cadwraeth natur cymunedol y Dyffryn yn y dyfodol. Ers hynny, mae INCC wedi datblygu gardd bywyd gwyllt fawr gyda pholydwnnel mwy i wella’r gwaith y gallwn ei wneud yn y Dyffryn.