Swydd – Swyddog Rhywogaeth
Rhan Amser (Dau ddiwrnod yr wythnos), cyfnod penodol (12 mis)
Cyflog – £25,000 (Pro-rata)
Lleoliad Y Rôl – Y Ganolfan Wyddoniaeth, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Sir Gaerfyrddin. Gweithio gartref ac ar y safle yn Llantrisant, De Cymru.
Mae’r Fenter ar gyfer Cadwraeth Natur Cymru (INCC) yn sefydliad cadwraeth natur sydd â gweledigaeth o ‘Gymru gyda mwy o fywyd gwyllt mewn mwy o fannau, wedi’i chreu gan gymdeithas sy’n gweld gwerth cynhenid mewn byd natur’. Ein nod yw cyflawni ein gweledigaeth drwy eiriolaeth, ymchwil, cadwraeth rhywogaethau a chynefinoedd yn ogystal â sefyll dros fywyd gwyllt yng Nghymru.
Diolch i gyllid gan gefnogwyr ynghyd â Sefydliad Waterloo a Sefydliad Garfield and Weston, mae’r INCC yn hysbysebu am Swyddog Rhywogaeth i helpu gyda goruchwylio ein prosiect blaenllaw, Prosiect Adfer Poblogaeth Britheg y Gors, yn Ne Cymru.
Ym mis Awst 2020, dyfarnwyd trwydded i INCC i gasglu nifer bach o lindys britheg y gors o’r gwyllt a’u magu mewn caethiwed i helpu i adfer poblogaeth sy’n lleihau yn Ne Cymru. Mae’r prosiect adfer yn cael ei gynnal yn Llantrisant, De Cymru ac mae’r lindys yn cael eu magu ar hyn o bryd yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Sir Gaerfyrddin. Mae’r 12 mis nesaf yn hanfodol i’r prosiect, o ran adfer y boblogaeth, a’n hamcanion ehangach o ymgysylltu â’r gymuned, hyrwyddo, ymchwil a chodi arian.
Rydym yn chwilio am rywun i ymuno â thîm INCC i helpu gyda goruchwylio gwahanol agweddau ar y prosiect i adfer poblogaeth britheg y gors a’i ddatblygiad yn y dyfodol.
Mae’r ceisiadau’n cau am hanner dydd, dydd Llun 12fed Ebrill 2021.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag info@incc.wales