Rhif 58

Rhifyn clawr 58 Natur Cymru

Yn dilyn gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru

Adeiladu cydnerthedd: egwyddorion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy

Russell De’Ath

Ydy materion amgylcheddol yn dylanwadu ar y ffordd mae pobl yn pleidleisio? Ar sail yr holl sylw mae’r pwnc wedi’i gael yn y cyfryngau yn yr etholiadau diweddar, gallech ddod i’r casgliad ‘fawr ddim’ neu ‘ddim o gwbl’. Ar sail yr hyn y gwyddom am ein darllenwyr, mae llawer o bobl yng Nghymru’n teimlo’n angerddol iawn am faterion amgylcheddol. Ond pa mor hawdd yw pwyso a mesur a chymharu agweddau amgylcheddol y prif bleidiau cyn etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol ym mis Mai?

Natur Cymru wrote to the six main political parties asking for their approaches to the environmental problems facing Wales in the 21st century. In Issue 58 we summarised the responses we received

Mae cloddiau cerrig, neu waliau cerrig mewn rhai ardaloedd, yn rhan annatod o dirlun llawer o ucheldiroedd Cymru. Gallant ddweud llawer wrthym am hanes amaethyddiaeth yng Nghymru ac maent yn gynefinoedd a llochesi pwysig i fywyd gwyllt. Seilir yr erthygl hon, gan TWM ELIAS, JOHN H. DAVIES a DAFYDD ROBERTS, ar drafodion cynhadledd: ‘Er clod i’n cloddiau cerrig’, gynhaliwyd ym Mhlas Tan y Bwlch, Maentwrog ym mis Ebrill 2014.

Gall dechrau maes astudiaeth newydd fod yn anodd ond mae’r manteision bron bob amser yn fwy na’r anawsterau, fel y darganfu TRACEY LOVERING pan ddechreuodd ymddiddori mewn cennau.

Fel ymborthwyr sy’n hidlo, mae’r wystrys yn chwarae rhan hanfodol yn y dasg o sicrhau ansawdd dŵr da drwy hidlo ffytoplancton a gwaddodion o’r golofn ddŵr, ond mae cyfuniad o orbysgota a llygredd wedi lleihau’n ddirfawr niferoedd yr wystrys brodorol o gwmpas Cymru. Mae ansawdd dŵr a rhywogaethau sy’n ddibynnol arnynt wedi dioddef o ganlyniad. Mae ANDY WOOLMER yn aelod blaenllaw o gynllun i ailgyflwyno wystrys i Fae Abertawe.

Mae’n amlwg i’r rhan fwyaf ohonom y gellir ond sicrhau twf economaidd parhaus ar draul biosffer sy’n gynyddol fregus. Mae Colin Tudge wedi bod yn ysgrifennu am y pwnc ac yn ymgyrchu am ymagwedd wahanol tuag at economeg ac arferion amaethu ers degawdau lawer. Yma, mae IAN RAPPEL yn cofnodi meddyliau Colin ar amaethu confensiynol, colli bioamrywiaeth ac ymagwedd oleuedig, amgen tuag at amaethu.

DAVID SAUNDERS sy’n sôn am y gwaith arloesol a wnaed 70 o flynyddoedd yn ôl ar ynysoedd Sgogwm a Sgomer.

Am dros hanner canrif, dirywio fu hanes ardaloedd ucheldir fel Pumlumon; dirywiad o ran bioamrywiaeth, cymunedau gwledig a’r gwasanaethau mae’r ucheldir yn eu darparu i’r gymdeithas ehangach. Mae un Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt yn weithgar iawn yn yr ymdrechion i wyrdroi’r tuedd hwn, a sefydlu economi sy’n seiliedig ar reoli tir yn gynaliadwy, a fydd o fudd i bobl, natur a phrosesau naturiol. LIZ LEWIS REDDY sy’n esbonio mwy.

I aralleirio poster enwog gan blaid wleidyddol – ‘Dydy cadwraeth natur ddim yn gweithio’. Er gwaethaf ei broffil uchel, mwy o ddeddfwriaeth a newidiadau yn y grym gwleidyddol, mae’r amgylchedd yng Nghymru yn dioddef mwy nag erioed ac mae rhywogaethau a chynefinoedd fel petaent yn methu adfer ac adennill tir yn dilyn dirywiad. ROB PARRY sy’n gofyn a oes angen i ni groesi ffin ‘peidio ag ymyrryd’ a gwneud mwy i helpu.

Mewnwelediadau diddorol o Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Mowldio a chastio cwrel wedi’i ffosileiddio

Annette Townsend, Caroline Buttler a Cindy Howells

Ein tudalen arferol gan elusen Buglife

Si o’r trefi – creu ardaloedd bywyd gwyllt ar gyfer infertebratau

Michelle Bales

The Essential Guide to Beachcombing and the Strandline gan Steve Trewhella a Julie Hatcher

Rhayader by Nature gan Bob Dennison, Steve Jones, Richard Knight, Sorcha Lewis, Phil Ward a Ray Woods

The Island Artist gan Ann Lockley a Martin Lockley

Ailgyflwyno bywyd gwyllt i’r meysydd

Davis Elias

Ein cipolwg arferol ar yr ynysoedd oddi ar arfordir Cymru. Y tro hwn:

Newyddion o’r Moelrhoniaid, a goraeafu ar ynysoedd Cymru

Geoff Gibbs

Rhaglen BASC i reoli mincod er mwyn gwarchod llygoden y dŵr

Audrey Watson

Newyddion gan Coed Cadw, ymddiriedolaeth coetir Cymru

Pa mor wyrdd yw fy ninas? Pwysigrwydd coed mewn trefi a dinasoedd

Rory Francis