Yn 2023 daeth tirfeddianwyr newydd o Fro Morgannwg a oedd newydd brynu fferm 77ha at INCC. Tan yn gymharol ddiweddar, roedd yn fferm ddefaid a gwartheg gymysg yn cynnwys tir pori wedi’i wella’n amaethyddol a chaeau silwair, ynghyd ag ardaloedd bychain o goetir collddail a gwrychoedd trwchus.

Ymyl glaswelltog o amgylch cae âr

Mae’r perchnogion tir yn frwd o blaid bywyd gwyllt a gofynnwyd i INCC gynnal arolwg o gynefinoedd y safle ac argymell y ffordd orau o wella’r safle i sicrhau’r fioamrywiaeth orau yno, gan sicrhau ei fod yn parhau i fod yn fusnes fferm hyfyw.

Arolygon cynefinoedd yn 2023

Ychydig cyn i’r perchnogion newydd brynu’r eiddo, cafodd rhai o’r caeau eu troi’n gnydau âr. Mae’r rhain wedi cael eu rheoli’n ddwys, ond mae’r tir yn parhau i fod yn gartref i rywogaethau nodweddiadol, gan gynnwys yr Ysgyfarnog a’r Bras Melyn.

Ysgyfarnog yn un o gaeau âr y fferm

Yn y gorffennol mae’r tir wedi cael ei reoli’n ddwys bob cam hyd at y gwrychoedd, gan adael fawr ddim lle ar gyfer bioamrywiaeth ar wahân i’r gwrychoedd eu hunain. Roedd rhai o’r newidiadau rheoli a argymhellwyd gan INCC yn ymwneud â chreu ‘lleiniau clustogi’ eang o amgylch ymylon y caeau âr a fyddai’n darparu lloches i Ysgyfarnogod a rhywogaethau eraill, yn ogystal â ffynhonnell o fwyd i bryfed pan fydd amrywiaeth y blodau’n dechrau cynyddu, a allai gael ei hybu drwy blannu rhywogaethau brodorol. Bydd y pryfed hyn wedyn yn helpu i fwydo adar y ffermdir, fel yr Ehedydd, Corhedydd y Waun a’r Bras Melyn.

Bras Melyn mewn gwyrych trwchus ar y fferm

Mae gostyngiad cyffredinol yn y mewnbwn cemegol, neu ei ddileu, wedi cael ei argymell hefyd, ond yn enwedig ar hyd y gwrychoedd a’r dyfrffyrdd. Er bod y rhan fwyaf o’r tir yn mynd i gael ei gynnal a’i gadw fel tir fferm, ond gan ei reoli’n bennaf gyda bywyd gwyllt mewn golwg, mae INCC hefyd wedi argymell plannu coed mewn ffordd gydymdeimladol. Bydd y coed hyn yn gymysgedd wedi’i ddewis yn ofalus o rywogaethau brodorol, sy’n briodol i’r ardal a’r mathau o bridd. Bydd y coed yn cael eu plannu mewn lleoliadau sydd â gwerth bioamrywiaeth isel ar hyn o bryd ac mewn mannau a fydd yn gwella cysylltedd y cynefinoedd ar draws y safle.

Amrywiaeth o rywogaethau brodorol yn aros i gael eu plannu
Myfyrwyr Coleg Penybont yn helpu i blannu’r coed

Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda’r perchnogion tir yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod i fonitro sut mae’r newidiadau rheoli yn gweithio a sut mae bioamrywiaeth yn ymateb. Diolch i’r perchnogion am eu hangerdd a’u brwdfrydedd dros y prosiect, mae’n brosiect ysbrydoledig i fod yn rhan ohono.