Mae INCC a gwirfoddolwyr wedi trawsnewid darn o dir yn Nyffryn Aman yn ardd bywyd gwyllt, sydd bellach yn ffynnu gyda bywyd gwyllt ac yn agored i ymwelwyr.

Yn gynnar yn 2022 cymerodd INCC gyfrifoldeb am ardal o dir drws nesaf i’r pafiliwn bowlio yn y Garnant, gyda’r syniad o greu gardd bywyd gwyllt i’w defnyddio gan bobl leol yn ogystal â helpu gyda rhai o brosiectau cadwraeth blaenllaw INCC.

Un o nodau allweddol y prosiect oedd gosod polydwnnel yn ei le a fyddai’n caniatáu i staff a gwirfoddolwyr INCC dyfu planhigion Tamaid y Cythraul ar gyfer y prosiect Britheg y Gors (link). Mae Tamaid y Cythraul a blodau gwyllt eraill yn cael eu tyfu hefyd i helpu prosiectau adfer cynefinoedd yn y Dyffryn ac mewn mannau eraill (link).

Adeiladu polytwnel ym mis Chwefror 2022
Gwirfoddolwyr yn tyfu blodau gwyllt

Un o’r ffyrdd gorau o wella ardal ar gyfer bywyd gwyllt yw drwy gloddio pwll, dim ots pa mor fach ydi’r pwll. Roedd yr ardd yn ddigon mawr i ganiatáu pwll o faint da a gafodd ei gloddio yn y gwanwyn, gan lenwi’n gyflym yn naturiol. Mae gan y pwll ystod o ddyfnderoedd ac fe ddaeth Madfallod Dŵr Palfog (Lissotriton helveticus) i fyw ynddo yn fuan iawn, a chwilod plymio.

Cloddio’r pwll ym mis Mawrth 2023
Blodau gwyllt yn ffynnu ym mis Mai 2023

Unwaith roedd blodau gwyllt wedi dechrau ffynnu yn yr haf roedd y pwll yn edrych yn naturiol iawn ac roedd yn boblogaidd iawn gyda gweision y neidr a mursennod.

Mae’r ardaloedd o laswellt yn cael eu rheoli fel dôl wair bellach, ond hyd yma ychydig o fioamrywiaeth sydd wedi bod yn y glaswelltir (ar wahân i degeirian sydd wedi cael croeso brwd!) felly rydyn ni wedi rhoi help llaw iddo Mae gwirfoddolwyr wedi bod yn gweithio’n galed yn plannu amrywiaeth o flodau gwyllt a llwyni brodorol a fydd yn darparu bwyd i infertebrata drwy gydol y flwyddyn. Rydyn ni wedi creu ardaloedd corsiog, darnau o laswellt tal, ardaloedd bach o brysgwydd trwchus ar gyfer adar sy’n nythu yn ogystal â choetir bach. Dylai’r cynefinoedd amrywiol hyn sicrhau bod yr ardd yn denu cymaint o fywyd gwyllt â phosibl.

Gwirfoddolwyr yn plannu blodau gwyllt brodorol

Mae’r ardd a’r polydwnnel yn ganolbwynt hefyd i ymgysylltu â’r gymuned leol a chael pobl i gymryd rhan mewn cadwraeth natur leol. Rydyn ni wedi croesawu grwpiau lleol a phlant ysgol i adeiladu bocsys draenogod a hadu blodau gwyllt ymhlith pethau eraill.

Rydyn ni hefyd wedi bod yn cynnal digwyddiadau ar thema bywyd gwyllt, gan gynnwys trapio gwyfynod, teithiau cerdded ystlumod a dyddiau rheoli cynefinoedd. Fe fyddwn ni hefyd yn agor yr ardd ar ddyddiau penodol dros yr haf i bobl ddod i gymryd rhan yn rhywfaint o’n gwaith ni, neu ddim ond eistedd ac ymlacio a mwynhau’r ardd. Plîs dewch draw!

Aelodau’r cyhoedd yn cael gweld rhai o lindys Britheg y Gors o brosiect atgyfnerthu poblogaeth INCC