Plîs cyfrannwch i helpu i atal difodiant lleol un o’r rhywogaethau eiconig sy’n wynebu’r bygythiad mwyaf yn y du – glöyn byw Britheg y Gors (Euphydryas aurinia).
Mae’r glöyn byw yma wedi wynebu dirywiad trychinebus ledled llawer o Ewrop a’r DU yn ystod y degawdau diwethaf. Er bod Cymru yn parhau i fod yn gadarnle cymharol iddo, hyd yn oed yma mae llawer o ddifodiant lleol wedi digwydd.
“Os ydyn ni wir am wyrdroi dirywiad byd natur yng Nghymru, mae’n amlwg bod angen dulliau cadwraeth natur ychwanegol. Mae’n wych gweld gweithredu mor gadarnhaol er budd glöyn byw eiconig Britheg y Gors a meddwl, er efallai mai hwn yw’r prosiect cyntaf o’i fath yng Nghymru, nid hwn fydd yr olaf.”
Iolo Williams: Darlledwr ar y Teledu a Naturiaethwr
Ar ôl blynyddoedd o baratoi a chynllunio, cafodd INCC drwydded ar ddiwedd 2020 i gasglu 80 o lindys o’r gwyllt i ddechrau rhaglen fagu mewn caethiwed. Yng ngwanwyn 2021, casglodd INCC, ynghyd â phartneriaid y prosiect, 80 o lindys Britheg y Gors gyda’r nod o adfer poblogaeth sy’n prinhau yn nhirwedd Elái Uchaf yn Ne Cymru.
Ar ôl eu casglu, symudwyd y lindys i gorlannau magu yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a’u gadael i chwileru. Fe wnaeth y glöynnod byw ddaeth allan fagu a dodwy wyau yn y planhigion Tamaid y Cythraul a ddarparwyd ar eu cyfer – prif blanhigyn bwyd y lindys. Ym mis Medi 2021, cafodd y pentwr cyntaf o lindys eu rhoi allan ar Gomin Llantrisant, y cyntaf o filoedd rydyn ni’n bwriadu eu rhyddhau i’r dirwedd dros yr ychydig flynyddoedd nesaf i helpu i roi hwb i’r boblogaeth.
Yn 2022, roedden ni’n falch iawn o ddarganfod bod y lindys wedi goroesi eu gaeafgwsg yn llwyddiannus ac wedi mynd ymlaen i chwileru a deor. Ar yr 11eg o Fai 2022, fe welson ni Fritheg y Gors yn hedfan ar y Comin am y tro cyntaf ers canol y 1990au!
Yn ystod y tymor hedfan ym misoedd Mai a Mehefin, gwelwyd cannoedd o löynnod byw Britheg y Gors ar draws y comin. Roedd plant ysgol lleol a gwirfoddolwyr sydd wedi helpu’r prosiect ym mhob cam yn gallu gweld eu holl waith caled yn agos. Mae’r ysgol leol, Ysgol Gymraeg Castellau, wedi bod yn hollbwysig i’r prosiect ac wedi annog y disgyblion i gymryd rhan weithredol yn y gwaith o arolygu a monitro Britheg y Gors yn lleol. Gobeithio y bydd llawer o’r plant yma’n tyfu i fyny i fod yn hyrwyddwyr Britheg y Gors yn y dyfodol.
Yn ddiweddarach yn ystod y flwyddyn, darganfu arolwg o’r Comin 193 o weoedd larfal – canlyniad gwych ar gyfer y flwyddyn gyntaf. Yn ystod y flwyddyn ers hynny, rydyn ni wedi rhyddhau mwy o lindys ar y Comin a dechrau ar y gwaith o sicrhau bod cynefinoedd glaswelltir corsiog eraill yn y dirwedd mewn cyflwr da.
Mae’r prosiect i fod i barhau am 5 mlynedd arall: un flwyddyn arall o ryddhau, wedyn 4 blynedd o fonitro’r Comin a’r dirwedd o’i amgylch yn y gobaith y bydd y glöynnod byw yn ffynnu ac yn gwasgaru i lecynnau eraill o gynefin addas.
Ni fyddai’r prosiect yma wedi bod yn llwyddiant fel y mae hyd yma heb help gan wirfoddolwyr, partneriaid y prosiect, cyllidwyr a llawer o bobl eraill – diolch i chi am eich cefnogaeth barhaus.
Cefnogi’r Prosiect
Pam Glöyn Byw Britheg y Gors
Ers blynyddoedd lawer mae cadwraeth Britheg y Gors yng Nghymru wedi canolbwyntio ar fonitro poblogaethau a cheisio dylanwadu ar bolisi i reoli cynefinoedd presennol yn well. Er gwaethaf gwaith diflino gwirfoddolwyr, sefydliadau cadwraeth a llawer o berchnogion tir, mae Britheg y Gors yn parhau i ddirywio. Mae’n dod yn fwyfwy amlwg bod angen mwy o ymdrech cadwraeth os ydyn ni eisiau diogelu’r rhywogaeth rhag difodiant lleol pellach yng Nghymru.
Oherwydd dirywiad cenedlaethol a rhyngwladol, mae Britheg y Gors wedi’i chynnwys yn Atodiad II Cyfarwyddeb Cynefinoedd a Rhywogaethau’r CEE/UE. Mae cyfanswm o ddeg Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) wedi’u dynodi yng Nghymru, lle mae Britheg y Gors yn brif reswm dros ddewis y safle. Mae’r rhywogaeth hefyd wedi’i rhestru fel ‘organeb byw o’r pwys mwyaf at ddiben cynnal a gwella bioamrywiaeth mewn perthynas â Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Mae dirywiad y rhywogaeth yn gysylltiedig â cholli ei chynefin glaswelltir corsiog a phorfa rhos. O’u rheoli’n briodol mae’r cynefinoedd hyn yn darparu’r strwythur gwyndwn delfrydol sydd ei angen ar y lindys a’u planhigion bwyd. Mae colli cynefinoedd glaswelltir, drwy ddwysáu amaethyddol yn bennaf, wedi arwain at dirweddau darniog sydd â llai a llai o ardaloedd sy’n addas ar gyfer y rhywogaeth.
Lleoliad y Prosiect
Mae’r prosiect adfer poblogaeth yn digwydd yn Ne Cymru, o fewn tirwedd Elái Uchaf sy’n cynnwys trefi Llantrisant a Thonyrefail. Er gwaethaf ei harwyddocâd yn y DU, mae poblogaeth Britheg y Gors Elái Uchaf yn lleihau ac wedi wynebu dirywiad graddol, parhaus ers o leiaf 25 mlynedd.
Un ardal allweddol ar gyfer y glöyn byw yw Comin Llantrisant, sydd i’r de o’r dirwedd ac yn gorchuddio ardal o fwy na 113ha o gynefin porfa rhos cyfagos. Mae cyfuniad o bori helaeth, yn hanesyddol ac yn gyfredol, gan wartheg wedi creu’r cynefin delfrydol ar gyfer Britheg y Gors, gyda digonedd o Damaid y Cythraul a llystyfiant gwlybdir arall. Er hyn, ni welwyd y glöyn byw ar y Comin ers dros 20 mlynedd.