Adfer tir fferm yng Ngheredigion

Ers 2020 mae INCC wedi bod yn cynnal arolygon ac asesiadau i helpu fel sail i benderfyniadau rheoli bywyd gwyllt ar fferm yng Ngheredigion, ar ochr orllewinol Dyffryn Teifi. Mae’r safle yn ardal o 84.6ha o dir a oedd, tan yn gymharol ddiweddar, yn cael ei reoli’n bennaf gan ddefaid yn pori a’i dorri ar gyfer silwair. Roedd camau cynnar cyfranogiad INCC yn cynnwys cynnal arolwg cynefin llawn o’r tir ac wedyn trafodaethau gyda pherchennog y tir ar sut i wireddu ei weledigaeth o dirwedd fioamrywiol.

Map cynefin o’r safle

Yn ogystal â’r tir sy’n cael ei reoli’n ddwysach, mae’r safle’n cynnwys ardaloedd o SoDdGA sy’n gartref i Lygod Pengrwn y Dŵr a Britheg y Gors. Yn ystod y 5 blynedd ers i INCC fod yn rhan o hyn, mae perchennog y tir wedi ymroi’n frwd i’r gwaith sydd ei angen i wneud y tir cystal â phosibl ar gyfer bywyd gwyllt.

Britheg y Gors

Un o’r tasgau cyntaf oedd cael gwartheg o fridiau brodorol i gymryd lle’r defaid, llawer gwell ar gyfer rheoli tir gyda chadwraeth natur mewn golwg. Daeth perchennog y tir â buches o wartheg Galloway i mewn yn gyflym, ac maent eisoes wedi gwneud gwahaniaeth mawr, mewn ardaloedd o laswelltir corsiog yn arbennig (lle na fyddai defaid yn mynd). Mae gan y gwartheg goleri NoFence sy’n galluogi eu cyfeirio i wahanol ardaloedd ar y fferm, yn dibynnu ar yr amser o’r flwyddyn.

Gwartheg Galloway a choleri NoFence

Yn ogystal â gwartheg, mae dau fochyn Tamworth buarth wedi cael eu rhoi yma; mae eu gweithgarwch yn dynwared gweithgarwch Baeddod Gwyllt brodorol a fyddai wedi bod yn bresennol yma yn y gorffennol. Mae eu cloddio’n creu ardaloedd moel o bridd i blanhigion egino yn ogystal â phyllau bach sydd o fudd i infertebrata dyfrol ac amffibiaid magu.

Y nod ar gyfer y caeau sydd wedi’u gwella’n amaethyddol yw dod â’r amrywiaeth o flodau yn ôl, mae hyn yn cael ei wneud drwy dorri a byrnu mecanyddol i leihau’r maethynnau dros amser, ac felly bydd llawer o Rygwellt i’w weld yma. Bydd hau hadau’r Gribell Felen yn helpu i wanhau’r glaswelltau hefyd, gan arwain at wyndwn sy’n fwy cyfoethog o ran rhywogaethau ac sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt. Treuliodd myfyrwyr o Goleg Pen-y-bont ar Ogwr benwythnos ar y safle yn 2023, 2024 and 2025 a chynnal gwaith monitro llystyfiant mewn rhai o’r caeau yma er mwyn galluogi i’w cynnydd gael ei asesu’n barhaol.

Myfyrwyr coleg yn gwneud arolwg llystyfiant

Yn ogystal â’r tir o’i chwmpas, mae gan y fferm nifer o adeiladau allanol sy’n gartref i Dylluanod Gwynion, y Tingoch, Gwenoliaid Cyffredin, Gwenoliaid y Bondo ac Adar y To sy’n nythu, yn ogystal ag Ystlumod Lleiaf.

Chwith: Y Tingoch

Mae’r glaswelltir corsiog yn cael ei ddefnyddio gan Ddyfrgwn, amffibiaid, infertebrata dyfrol yn ogystal â Llygod Pengrwn y Dŵr; mae’r rhain hefyd wedi elwa o greu rhwydwaith o byllau bach a mawr. Mae Llygod Pengrwn y Dŵr wedi sefydlu yn y rhain yn gyflym iawn, yn ogystal â Madfallod Dŵr Palfog, a Brogaod.

Yn gyffrous, roedd 2025 yn benllanw ar flynyddoedd o gynllunio a cheisiadau am drwydded wrth i ddau Afanc Castor fiber gael eu rhyddhau i safle mawr, wedi’i ffensio’n arbennig yn barod. Wrth i mi ysgrifennu’r darn hwn, maen nhw wedi bod yno am 6 mis ac wedi bod yn hynod brysur yn lledu a blocio ffosydd, creu pyllau newydd ac adeiladu llety, gan wneud y cynefin yn fwy addas fyth iddyn nhw eu hunain yn ogystal ag ar gyfer llawer o dacsa eraill. Croesi bysedd y bydd posib gweld y gweithgarwch yma yn y gwyllt eto yng Nghymru yn fuan.

Dyfrgwn yn defnyddio’r glaswelltir corsiog

Bydd INCC yn cymryd rhan yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod i fonitro sut mae rheoli cynefinoedd o fudd i’r safle, yn ogystal â goruchwylio mwy o newidiadau i gynefinoedd, fel plannu coed yn ddethol, plannu eginblanhigion blodau gwyllt, a chreu mwy o byllau bach. Bydd arolygon ar gyfer llawer o wahanol dacsa yn cael eu cynnal hefyd, yn enwedig ar gyfer Britheg y Gors, Llygoden Bengron y Dŵr, Llygoden yr Ŷd, ac adar sy’n magu. Diolch i berchennog y tir am ei angerdd a’i weledigaeth ac am ein cynnwys ni mewn prosiect mor ysbrydoledig.

Achub Llygod Pengrwn y Dŵr Ucheldir Cymru

Water Vole

Mae INCC a’i phartneriaid yn gobeithio achub poblogaeth o un o rywogaethau prinnaf a chyflymaf y DU ymhlith y mamaliaid, Llygoden Bengron y Dŵr (Arvicola amphibius).

“We have lost so many of our Water Voles in Wales over the past fifty years or so. If we don’t do something urgently, we may end up losing this wonderful animal for good. Projects like this, that bring together conservationists, universities and local communities give us hope that we can save the Water Vole and lots of other species and their habitats as well”.

Iolo Williams
T.V. Broadcaster and Naturalist


Cael y newyddion diweddaraf am brosiectau






Y gred ydi bod Llygod Pengrwn y Dŵr wedi wynebu dirywiad o fwy na 90% yn ystod y blynyddoedd diwethaf oherwydd cyfuniad o golli cynefin ac ysglyfaethu gan y Minc Americanaidd (Neovison vison) estron ac maen nhw bellach yn cael eu dosbarthu fel ‘mewn perygl’ yn y DU. Gall cynefinoedd yr ucheldir fod yn lloches i Lygod Pengrwn y Dŵr lle mae’r Minc yn llawer llai cyffredin.

Minc Americanaidd

Tan yn gymharol ddiweddar, y gred oedd bod cynefinoedd yr ucheldir yn anaddas ar gyfer Llygod Pengrwn y Dŵr ac, o ganlyniad, ychydig o ymdrech sydd wedi’i gwneud i arolygu’r cynefinoedd hynny. Ers hynny, mae Llygod Pengrwn y Dŵr wedi cael eu canfod mewn cynefinoedd ucheldirol sydd wedi’u gwasgaru ar draws Cymru ond nid ydym yn deall llawer am eu hecoleg yma o hyd. Mae’n bosibl bod y boblogaeth o amgylch Pen y Cymoedd ac ucheldiroedd Rhondda Cynon Taf / Castell-nedd Port Talbot yn sylweddol ar raddfa’r DU, felly mae dealltwriaeth ddyfnach o ddeinameg eu poblogaeth yn allweddol i helpu i wyrdroi eu dirywiad.

Cynefin Llygoden Bengron y Dŵr yn yr ucheldir

Bydd prosiect Llygoden Bengron y Dŵr INCC yn yr ucheldir, sy’n cael ei gyllido gan Gronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd, yn cynnal ymchwil hanfodol ac arloesol i wella ein dealltwriaeth ni o sut i helpu Llygod Pengrwn y Dŵr mewn tirweddau ucheldirol. Yn bwysig iawn, bydd y prosiect yn sicrhau bod pobl a chymunedau lleol wrth galon cyflawni camau cadwraeth ac y bydd gan wirfoddolwyr lleol yr wybodaeth a’r adnoddau i ddod yn hyrwyddwyr cadarn ar Lygod Pengrwn y Dŵr yn y dyfodol.

Mae gan y prosiect dri amcan cyffredinol.

Amcan 1: Atal difodiant lleol poblogaethau Llygod Pengrwn y Dŵr yn nhirwedd ucheldirol Pen y Cymoedd ac o’i hamgylch. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy gynnal arolygon cynefinoedd a rhywogaethau manwl, ymchwil arloesol, ymgysylltu â’r gymuned, eiriolaeth a chanllawiau i reolwyr tir.

Uchod: tŷ bach nodweddiadol Llygoden Bengron y Dŵr

Dde: tystiolaeth o Lygod Pengrwn y Dŵr yn bwydo

Amcan 2: Ymgysylltu â chymunedau, grwpiau, ysgolion ac unigolion lleol fel bod pobl o bob oed yn cael eu hysbrydoli gan Lygod Pengrwn y Dŵr a’r bywyd gwyllt maen nhw’n rhannu eu tirwedd ag ef. Cynnwys a chyflwyno gwybodaeth i bobl leol fel eu bod yn gallu chwarae rhan uniongyrchol ym mesurau cadwraeth Llygod Pengrwn y Dŵr nawr ac yn y dyfodol.

Arolygu Llygod Pengrwn y Dŵr

Amcan 3: Creu dull Cymru gyfan o weithredu i warchod Llygod Pengrwn y Dŵr yn ucheldiroedd Cymru, yn seiliedig ar y dystiolaeth wyddonol a’r wybodaeth a gafwyd drwy’r prosiect. Bydd technegau a modelu arloesol a ddefnyddiwyd yn ystod y prosiect yn cael eu defnyddio i gyflwyno gwybodaeth i bobl sy’n gwneud penderfyniadau amgylcheddol ynghylch y ffordd orau o warchod poblogaethau Llygod Pengrwn y Dŵr ledled Cymru a beth sydd angen ei wneud. Gall sefydliadau fel Cyfoeth Naturiol Cymru, yr Ymddiriedolaethau Natur, y Prosiect Mawndiroedd Coll ac Awdurdodau Lleol elwa i gyd o ganfyddiadau’r prosiect.

Dde: ‘cam twnel’ am chwilio am Lygod Pengrwn y Dŵr

Bydd pobl a chymunedau lleol yn ymwneud â phob agwedd ar y prosiect, o ymchwil, mapio ac arolygon, i reoli ac adfer cynefinoedd yn ymarferol. Bydd y prosiect yn codi ymwybyddiaeth o Lygod Pengrwn y Dŵr yn lleol drwy gyfleoedd gwirfoddoli a mentrau ymgysylltu. Yn bwysig iawn, bydd y prosiect yn dathlu pa mor bwysig yw’r dirwedd leol i’r mamal hynod brin yma a’r rhan y mae pobl a chymunedau lleol wedi’i chwarae wrth ddiogelu’r rhywogaeth a chyfrannu at ei goroesiad yn y tymor hir.

Gwaith adfer mawndir

Mae’r prosiect yn cefnogi swyddogion INCC, gwirfoddolwyr a myfyrwyr ym Mhrifysgolion Caerdydd ac Aberystwyth i gynnal dadansoddiad genetig o boblogaethau hysbys a newydd eu darganfod o Lygod Pengrwn y Dŵr yn nhirwedd ucheldirol ardal y prosiect. Bydd yr ymchwil arloesol yma’n datgelu pa mor gysylltiedig yw’r poblogaethau ac yn canfod lefel y cymysgu genetig. Byddai hyn yn dangos a yw Llygod Pengrwn y Dŵr yn symud ar draws y dirwedd. Os yw’r canlyniadau’n dangos bod cysylltedd gwael rhwng poblogaethau, bydd y dystiolaeth honno’n helpu i lywio’r rheolaeth / creu cynefinoedd yn y dyfodol er mwyn helpu i wella cysylltedd.

Fel rhan o’r prosiect, cyflogodd INCC 2 aelod newydd o staff a gafodd y dasg o arolygu, mapio a chynllunio digwyddiadau cymunedol. Mae Eliza a Richard wedi bod yn allweddol wrth ddod o hyd i lawer o boblogaethau newydd o Lygod Pengrwn y Dŵr ar draws ardal y prosiect, gan gyfrannu’n fawr at ein gwybodaeth am Lygod Pengrwn y Dŵr yr ucheldir. 

Yn anffodus, fe wnaethant hefyd ddod o hyd i dystiolaeth o’r Minc Americanaidd yn lledaenu i gynefinoedd yr ucheldir ac mae hyn wedi arwain at INCC a phartneriaid yn sefydlu Partneriaeth Minc Americanaidd De Cymru (SWAMP). Mae’r grŵp hwn yn cynnwys Cyngor Sir Castell-nedd Port Talbot, Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Ymddiriedolaeth Natur Gwent a’r Prosiect Mawndiroedd Coll. Mae rhagor o fanylion i’w gweld yma (https://www.natureconservation.wales/cy/establishing-the-new-south-wales-american-mink-partnership-swamp/).

Cysylltodd y bartneriaeth â The Waterlife Recovery Trust sydd wedi cynnal prosiect arloesol i reoli’r Minc Americanaidd yn Nwyrain Anglia (Waterlife Recovery Trust – Saving our native wildlife from the introduced American Mink).  

Adfer tir fferm ym Mro Morgannwg

Yn 2023 daeth tirfeddianwyr newydd o Fro Morgannwg a oedd newydd brynu fferm 77ha at INCC. Tan yn gymharol ddiweddar, roedd yn fferm ddefaid a gwartheg gymysg yn cynnwys tir pori wedi’i wella’n amaethyddol a chaeau silwair, ynghyd ag ardaloedd bychain o goetir collddail a gwrychoedd trwchus.

Ymyl glaswelltog o amgylch cae âr

Mae’r perchnogion tir yn frwd o blaid bywyd gwyllt a gofynnwyd i INCC gynnal arolwg o gynefinoedd y safle ac argymell y ffordd orau o wella’r safle i sicrhau’r fioamrywiaeth orau yno, gan sicrhau ei fod yn parhau i fod yn fusnes fferm hyfyw.

Arolygon cynefinoedd yn 2023

Ychydig cyn i’r perchnogion newydd brynu’r eiddo, cafodd rhai o’r caeau eu troi’n gnydau âr. Mae’r rhain wedi cael eu rheoli’n ddwys, ond mae’r tir yn parhau i fod yn gartref i rywogaethau nodweddiadol, gan gynnwys yr Ysgyfarnog a’r Bras Melyn.

Ysgyfarnog yn un o gaeau âr y fferm

Yn y gorffennol mae’r tir wedi cael ei reoli’n ddwys bob cam hyd at y gwrychoedd, gan adael fawr ddim lle ar gyfer bioamrywiaeth ar wahân i’r gwrychoedd eu hunain. Roedd rhai o’r newidiadau rheoli a argymhellwyd gan INCC yn ymwneud â chreu ‘lleiniau clustogi’ eang o amgylch ymylon y caeau âr a fyddai’n darparu lloches i Ysgyfarnogod a rhywogaethau eraill, yn ogystal â ffynhonnell o fwyd i bryfed pan fydd amrywiaeth y blodau’n dechrau cynyddu, a allai gael ei hybu drwy blannu rhywogaethau brodorol. Bydd y pryfed hyn wedyn yn helpu i fwydo adar y ffermdir, fel yr Ehedydd, Corhedydd y Waun a’r Bras Melyn. Yn 2025, mae stribedi byffer 6m wedi cael eu sefydlu o amgylch ffiniau’r holl gaeau âr ac maen nhw wedi cael eu defnyddio gan heidiau o linosiaid sy’n manteisio ar y ffynhonnell fwyd ychwanegol.

Bras Melyn mewn gwyrych trwchus ar y fferm

Mae gostyngiad cyffredinol yn y mewnbwn cemegol, neu ei ddileu, wedi cael ei argymell hefyd, ond yn enwedig ar hyd y gwrychoedd a’r dyfrffyrdd. Er bod y rhan fwyaf o’r tir yn mynd i gael ei gynnal a’i gadw fel tir fferm, ond gan ei reoli’n bennaf gyda bywyd gwyllt mewn golwg, argymhellodd INCC rai opsiynau yn benodol ar gyfer bywyd gwyllt hefyd. Yn gyntaf, plannu coed cydymdeimladol; dewiswyd cymysgedd o rywogaethau brodorol yn ofalus, yn briodol i’r ardal a’r mathau o bridd. Mae’r coed wedi cael eu plannul eu plannu mewn lleoliadau sydd â gwerth bioamrywiaeth isel ar hyn o bryd ac mewn mannau a fydd yn gwella cysylltedd y cynefinoedd ar draws y safle.

Amrywiaeth o rywogaethau brodorol yn aros i gael eu plannu
Myfyrwyr Coleg Penybont yn helpu i blannu’r coed

Yn nes ymlaen yn 2025 bydd pyllau’n cael eu cloddio ar y safle a fydd o fudd mawr i amffibiaid ac infertebrata dŵr yn ogystal â thacsa eraill; pyllau yw un o’r ffyrdd gorau o hybu bioamrywiaeth. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda’r perchnogion tir yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod i fonitro sut mae’r newidiadau rheoli yn gweithio a sut mae bioamrywiaeth yn ymateb. Diolch i’r perchnogion am eu hangerdd a’u brwdfrydedd dros y prosiect, mae’n brosiect ysbrydoledig i fod yn rhan ohono.

Llwyndewi, gwarchodfa natur gyntaf INCC!

Yn 2023 dechreuodd INCC reoli ardal fawr o dir sy’n eiddo i Brecon Carreg, y cwmni dŵr mwynau. Mae’n safle anhygoel sy’n edrych dros Gastell Carreg Cennen ac mae ganddo botensial enfawr.

Yn gorchuddio 65ha, mae’r tir o amgylch ffatri Brecon Carreg ger Trapp yn gymysgedd gwych o ddolydd, coetir, glaswelltir corsiog, glaswelltir asidig yr ucheldir ac, wrth gwrs, yr Afon Llwchwr. Yn cael ei hadnabod fel Llygad Llwchwr, mae’r afon yn tarddu o ogofâu o dan y ddaear ac yn llifo drwy’r warchodfa ac yn cwrdd â’r môr ger Llanelli yn y pen draw.

Uchod: yr afon sy’n rhedeg drwy’r warchodfa natur

Chwith: tu mewn i darddiad yr Afon Llwchwr (llun (c) Mark Burkey)

Gwaith cychwynnol INCC oedd cerdded y safle (tasg eithaf anodd!) a mapio’r cynefinoedd oedd yn bresennol, gan feddwl sut gellid gwella’r amrywiaeth drwy gyflwyno rheolaeth gydymdeimladol.

Map cynefin o’r safle
Un o’r dolydd ar y safle

Fe wnaethon ni hefyd ddechrau cynnal rhai arolygon ecolegol sylfaenol, gan ddatgelu’r bywyd gwyllt gwych sydd eisoes yn bresennol, gan gynnwys Dyfrgwn, Moch Daear, y Gog, Cigfrain, a gweision y neidr a mursennod. Bydd yr arolygon hyn yn parhau i gael eu cynnal yn ystod y blynyddoedd nesaf i asesu pa mor dda y mae’r technegau rheoli cynefinoedd yn gweithio. Yn ogystal ag arolygon, rydyn ni hefyd wedi gosod nifer o focsys Pathewod (Muscardinus avellanarius) yn eu lle, yn ogystal â bocs Tylluanod Gwynion.

Gwirfoddolwyr yn gosod bocsys Pathewod

Uchod: mae Moch Daear a Dyfrgwn yn bresennol ar y safle

Gyda help tyfwr coed lleol rydyn ni wedi gosod nifer o focsys ystlumod a bocsys adar yn eu lle. Byddwn yn monitro’r rhain yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod. Roedd rhywfaint o’r coetir yn edrych yn ddelfrydol ar gyfer y Gwybedog Brith Ficedula hypoleuca ac yn 2025 daeth dau bâr i fyw yn y bocsys!

Mae angen rheoli rhywfaint o’r glaswelltir corsiog ar y safle i wella ei botensial ar gyfer bywyd gwyllt. Tan nawr, nid oedd yn cael ei reoli o gwbl felly mae’r glaswellt wedi gordyfu ac yn drwchus. Fe allai fod yn safle pwysig ar gyfer Britheg y Gors a gallai fod yn garreg gamu i gysylltu’r poblogaethau o amgylch Trapp â’r rhai yn Nyffryn Aman. Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda ffenswyr a phorwyr lleol ac wedi llwyddo i gyflwyno rhai gwartheg gwydn ar y safle yn 2025. Mae gwartheg ymhlith y rheolwyr cynefinoedd gorau’n bod ac fe fyddant yn sicrhau bod y glaswelltir yn cael ei agor, a fydd yn gwella bioamrywiaeth y safle.

Yn 2025 roedden ni’n ddigon ffodus i groesawu myfyrwyr o Goleg Pen-y-bont ar Ogwr i’r warchodfa natur. Fe fuon nhw’n gweithio’n galed i greu pwll newydd sbon, yn ogystal â gwneud rhywfaint o waith lladd Rhedyn gan deneuo Rhedyn trwchus mewn ardaloedd lle mae’n dechrau cysgodi cynefinoedd sensitif fel glaswelltir asid.

Ymunodd y myfyrwyr hefyd â gwirfoddolwyr lleol i ddechrau clirio’r Ffromlys Chwarennog Impatiens glandulifera hynod ymledol o’r safle. Mae’r planhigyn yma’n niweidiol iawn i fioamrywiaeth, gan gysgodi llystyfiant brodorol a gwanhau glannau afonydd. Mae llawer iawn o waith clirio wedi’i wneud eisoes a bydd monitro a rheoli’n parhau’n flynyddol. Gwnaed llawer o’r gwaith yn 2025 gan Liv a Matt, dau fyfyriwr a gyflogwyd gan INCC dros gyfnod yr haf i roi eu camau cyntaf iddynt tuag at yrfa mewn cadwraeth.

Cadwraeth y Bras Melyn ym Mro Morgannwg

Yellowhammer. Clive Hurford

Mae INCC yn gobeithio gwella ffawd un o adar ffermdir prinnaf a mwyaf lliwgar Cymru – y Bras Melyn (Emberiza citrinella). Bydd y prosiect yn cynnwys perchnogion tir a chadwraethwyr yn gweithio gyda’i gilydd ar gyfer y Bras Melyn a bywyd gwyllt arall ar fferm gymysg ym Mro Morgannwg.

Er mwyn helpu’r Bras Melyn a’r bywyd gwyllt ffermdir arall ar y fferm, bydd y prosiect yn plannu 10,000 metr sgwâr o gnwd gorchudd adar gwyllt llawn egni, wedi’i wasgaru dros wahanol rannau o’r fferm. Ni fydd y cnwd gorchudd yn cael ei gynaeafu ochr yn ochr â phrif gnydau grawn y fferm. Diolch i gefnogaeth gan Gymdeithas Adaregol Cymru (WOS), rydym eisoes wedi codi £700 tuag at gostau’r prosiect. Rydym nawr yn gobeithio codi £2,000 pellach.

Rhoddwch Os Gwelwch yn Dda

Yellowhammer Project



Category:

Bydd y cnwd gorchudd yn darparu amodau delfrydol ar gyfer adar sy’n nythu ar y ddaear yn y gwanwyn a’r haf, a miliynau o hadau llawn egni i adar ffermdir dros y gaeaf. Wrth flodeuo, bydd y cnwd gorchudd heb ei chwistrellu yn darparu cynefin i lawer o infertebrata, a fydd, yn eu tro, yn darparu bwyd i gywion.

Y rhywogaethau sy’n wynebu bygythiad arbennig oherwydd colli tir âr yw rhywogaethau o adar ffermdir sy’n ddibynnol ar hadau, fel y Bras Melyn (Emberiza citrinella) a’r Betrisen Lwyd (Perdix perdix), sydd eisoes wedi diflannu o’r rhan fwyaf o gefn gwlad Cymru. Mae’r gostyngiad mewn planhigion âr blynyddol ac ymylon cnydau llawn blodau gwyllt wedi arwain at golli safleoedd nythu, bwyd ar ffurf pryfed i gywion a hadau i’w cynnal nhw drwy fisoedd oer y gaeaf.

Yn ogystal â’r cnwd gorchudd, bydd ymylon caeau 6 i 8m o led llawn blodau gwyllt yn cael eu creu o amgylch yr holl gaeau âr ar y fferm. Bydd hyn yn cyfateb i sawl hectar o ddolydd blodau gwyllt a fydd yn darparu mwy fyth o gynefin i fywyd gwyllt y ffermdir.

Ymylon âr heb ei chwistrellu Clive Hurford
Blodau gwyllt âr wedi’u creu gan ymylon tyfu heb eu chwistrellu Llun Clive Hurford

Dywedodd Rhion Pritchard – Ymddiriedolwr gyda Chymdeithas Adaregol Cymru: “Mae’r Bras Melyn, oedd unwaith yn olygfa gyfarwydd yng Nghymru, mewn trafferthion. Mae canlyniadau Arolwg Adar Magu’r BTO yn dangos bod ei niferoedd wedi dirywio 79% yng Nghymru ers 1995, sef y dirywiad ail fwyaf o blith unrhyw rywogaethau o adar. Mae’n bleser gan Gymdeithas Adaregol Cymru felly allu cefnogi prosiect sydd â’r nod o hybu niferoedd y Bras Melyn ym Mro Morgannwg. Rydyn ni wedi ymweld â’r fferm dan sylw ac mae’n amlwg bod ganddi botensial aruthrol. Rydyn ni’n hyderus y bydd y prosiect hwn yn gwneud byd o wahaniaeth i’r Bras Melyn a rhywogaethau eraill sy’n bwyta hadau yn yr ardal hon ac rydyn ni’n annog pawb i gefnogi’r fenter gyffrous yma gan INCC”.

Dyffryn Aman: Gardd Bywyd Gwyllt Cymunedol

Mae INCC a gwirfoddolwyr wedi trawsnewid darn o dir yn Nyffryn Aman yn ardd bywyd gwyllt, sydd bellach yn ffynnu gyda bywyd gwyllt ac yn agored i ymwelwyr.

Yn gynnar yn 2022 cymerodd INCC gyfrifoldeb am ardal o dir drws nesaf i’r pafiliwn bowlio yn y Garnant, gyda’r syniad o greu gardd bywyd gwyllt i’w defnyddio gan bobl leol yn ogystal â helpu gyda rhai o brosiectau cadwraeth blaenllaw INCC.

Un o nodau allweddol y prosiect oedd gosod polydwnnel yn ei le a fyddai’n caniatáu i staff a gwirfoddolwyr INCC dyfu planhigion Tamaid y Cythraul ar gyfer y prosiect Britheg y Gors (link). Mae Tamaid y Cythraul a blodau gwyllt eraill yn cael eu tyfu hefyd i helpu prosiectau adfer cynefinoedd yn y Dyffryn ac mewn mannau eraill (link).

Adeiladu polytwnel ym mis Chwefror 2022
Gwirfoddolwyr yn tyfu blodau gwyllt

Un o’r ffyrdd gorau o wella ardal ar gyfer bywyd gwyllt yw drwy gloddio pwll, dim ots pa mor fach ydi’r pwll. Roedd yr ardd yn ddigon mawr i ganiatáu pwll o faint da a gafodd ei gloddio yn y gwanwyn, gan lenwi’n gyflym yn naturiol. Mae gan y pwll ystod o ddyfnderoedd ac fe ddaeth Madfallod Dŵr Palfog (Lissotriton helveticus) i fyw ynddo yn fuan iawn, a chwilod plymio.

Cloddio’r pwll ym mis Mawrth 2023
Blodau gwyllt yn ffynnu ym mis Mai 2023

Unwaith roedd blodau gwyllt wedi dechrau ffynnu yn yr haf roedd y pwll yn edrych yn naturiol iawn ac roedd yn boblogaidd iawn gyda gweision y neidr a mursennod. Yn 2025, diolch i grant Pobl, cloddiwyd ail bwll, llawer llai, a daeth madfallod dŵr ac infertebrata pwll i fyw ynddo’n gyflym iawn.

Mae’r ardaloedd o laswellt yn cael eu rheoli fel dôl wair bellach, ac i ddechrau, ychydig iawn o fioamrywiaeth oedd yno (ar wahân i degeirian sydd wedi cael croeso brwd!) felly rydyn ni wedi rhoi help llaw iddo Mae gwirfoddolwyr wedi bod yn gweithio’n galed yn plannu amrywiaeth o flodau gwyllt a llwyni brodorol a fydd yn darparu bwyd i infertebrata drwy gydol y flwyddyn. Rydyn ni wedi creu ardaloedd corsiog, darnau o laswellt tal, ardaloedd bach o brysgwydd trwchus ar gyfer adar sy’n nythu yn ogystal â choetir bach. Dylai’r cynefinoedd amrywiol hyn sicrhau bod yr ardd yn denu cymaint o fywyd gwyllt â phosibl.

Gwirfoddolwyr yn plannu blodau gwyllt brodorol

Mae’r ardd a’r polydwnnel yn ganolbwynt hefyd i ymgysylltu â’r gymuned leol a chael pobl i gymryd rhan mewn cadwraeth natur leol. Rydyn ni wedi croesawu grwpiau lleol a phlant ysgol i adeiladu bocsys draenogod a hadu blodau gwyllt ymhlith pethau eraill.

Rydyn ni hefyd wedi bod yn cynnal digwyddiadau ar thema bywyd gwyllt, gan gynnwys trapio gwyfynod, teithiau cerdded ystlumod a dyddiau rheoli cynefinoedd. Fe fyddwn ni hefyd yn agor yr ardd ar ddyddiau penodol dros yr haf i bobl ddod i gymryd rhan yn rhywfaint o’n gwaith ni, neu ddim ond eistedd ac ymlacio a mwynhau’r ardd. Plîs dewch draw!

Aelodau’r cyhoedd yn cael gweld rhai o lindys Britheg y Gors o brosiect atgyfnerthu poblogaeth INCC

Achub Britheg y Gors yn Ne Cymru

Plîs cyfrannwch i helpu i atal difodiant lleol un o’r rhywogaethau eiconig sy’n wynebu’r bygythiad mwyaf yn y du – glöyn byw Britheg y Gors (Euphydryas aurinia).

Mae’r glöyn byw yma wedi wynebu dirywiad trychinebus ledled llawer o Ewrop a’r DU yn ystod y degawdau diwethaf. Er bod Cymru yn parhau i fod yn gadarnle cymharol iddo, hyd yn oed yma mae llawer o ddifodiant lleol wedi digwydd.

“Os ydyn ni wir am wyrdroi dirywiad byd natur yng Nghymru, mae’n amlwg bod angen dulliau cadwraeth natur ychwanegol. Mae’n wych gweld gweithredu mor gadarnhaol er budd glöyn byw eiconig Britheg y Gors a meddwl, er efallai mai hwn yw’r prosiect cyntaf o’i fath yng Nghymru, nid hwn fydd yr olaf.”

Iolo Williams: Darlledwr ar y Teledu a Naturiaethwr

Ar ôl blynyddoedd o baratoi a chynllunio, cafodd INCC drwydded ar ddiwedd 2020 i gasglu 80 o lindys o’r gwyllt i ddechrau rhaglen fagu mewn caethiwed. Yng ngwanwyn 2021, casglodd INCC, ynghyd â phartneriaid y prosiect, 80 o lindys Britheg y Gors gyda’r nod o adfer poblogaeth sy’n prinhau yn nhirwedd Elái Uchaf yn Ne Cymru.

Ar ôl eu casglu, symudwyd y lindys i gorlannau magu yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a’u gadael i chwileru. Fe wnaeth y glöynnod byw ddaeth allan fagu a dodwy wyau yn y planhigion Tamaid y Cythraul a ddarparwyd ar eu cyfer – prif blanhigyn bwyd y lindys. Ym mis Medi 2021, cafodd y pentwr cyntaf o lindys eu rhoi allan ar Gomin Llantrisant, y cyntaf o filoedd rydyn ni’n bwriadu eu rhyddhau i’r dirwedd dros yr ychydig flynyddoedd nesaf i helpu i roi hwb i’r boblogaeth.

Y Fritheg Gors cyntaf eu rhoi allan ar Gomin Llantrisant, ym mis Medi 2021
Delwedd thermol o lindys Britheg y Gors yn y gwanwyn 2022

Yn 2022, roedden ni’n falch iawn o ddarganfod bod y lindys wedi goroesi eu gaeafgwsg yn llwyddiannus ac wedi mynd ymlaen i chwileru a deor. Ar yr 11eg o Fai 2022, fe welson ni Fritheg y Gors yn hedfan ar y Comin am y tro cyntaf ers canol y 1990au!

Yn ystod y tymor hedfan ym misoedd Mai a Mehefin, gwelwyd cannoedd o löynnod byw Britheg y Gors ar draws y comin. Roedd plant ysgol lleol a gwirfoddolwyr sydd wedi helpu’r prosiect ym mhob cam yn gallu gweld eu holl waith caled yn agos. Mae’r ysgol leol, Ysgol Gymraeg Castellau, wedi bod yn hollbwysig i’r prosiect ac wedi annog y disgyblion i gymryd rhan weithredol yn y gwaith o arolygu a monitro Britheg y Gors yn lleol. Gobeithio y bydd llawer o’r plant yma’n tyfu i fyny i fod yn hyrwyddwyr Britheg y Gors yn y dyfodol.

Yn ddiweddarach yn ystod y flwyddyn, darganfu arolwg o’r Comin 193 o weoedd larfal – canlyniad gwych ar gyfer y flwyddyn gyntaf. Yn ystod y flwyddyn ers hynny, rydyn ni wedi rhyddhau mwy o lindys ar y Comin a dechrau ar y gwaith o sicrhau bod cynefinoedd glaswelltir corsiog eraill yn y dirwedd mewn cyflwr da.

Mae’r prosiect i fod i barhau am flwyddyn arall: rhagor o ryddhau i gefnogi’r boblogaeth ifanc, ynghyd â monitro’r Comin a’r dirwedd o’i amgylch yn y gobaith y bydd y glöynnod byw yn ffynnu ac yn gwasgaru i lecynnau eraill o gynefin addas.

Ni fyddai’r prosiect yma wedi bod yn llwyddiant fel y mae hyd yma heb help gan wirfoddolwyr, partneriaid y prosiect, cyllidwyr a llawer o bobl eraill – diolch i chi am eich cefnogaeth barhaus.

Cefnogi’r Prosiect

Pam Glöyn Byw Britheg y Gors

Ers blynyddoedd lawer mae cadwraeth Britheg y Gors yng Nghymru wedi canolbwyntio ar fonitro poblogaethau a cheisio dylanwadu ar bolisi i reoli cynefinoedd presennol yn well. Er gwaethaf gwaith diflino gwirfoddolwyr, sefydliadau cadwraeth a llawer o berchnogion tir, mae Britheg y Gors yn parhau i ddirywio. Mae’n dod yn fwyfwy amlwg bod angen mwy o ymdrech cadwraeth os ydyn ni eisiau diogelu’r rhywogaeth rhag difodiant lleol pellach yng Nghymru.

Lindys Britheg y Gors mewn gwe larfal

Oherwydd dirywiad cenedlaethol a rhyngwladol, mae Britheg y Gors wedi’i chynnwys yn Atodiad II Cyfarwyddeb Cynefinoedd a Rhywogaethau’r CEE/UE. Mae cyfanswm o ddeg Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) wedi’u dynodi yng Nghymru, lle mae Britheg y Gors yn brif reswm dros ddewis y safle. Mae’r rhywogaeth hefyd wedi’i rhestru fel ‘organeb byw o’r pwys mwyaf at ddiben cynnal a gwella bioamrywiaeth mewn perthynas â Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

Mae dirywiad y rhywogaeth yn gysylltiedig â cholli ei chynefin glaswelltir corsiog a phorfa rhos. O’u rheoli’n briodol mae’r cynefinoedd hyn yn darparu’r strwythur gwyndwn delfrydol sydd ei angen ar y lindys a’u planhigion bwyd. Mae colli cynefinoedd glaswelltir, drwy ddwysáu amaethyddol yn bennaf, wedi arwain at dirweddau darniog sydd â llai a llai o ardaloedd sy’n addas ar gyfer y rhywogaeth.

Pori gan wartheg yw’r ffordd orau o reoli cynefin Britheg y Gors

Lleoliad y Prosiect
Mae’r prosiect adfer poblogaeth yn digwydd yn Ne Cymru, o fewn tirwedd Elái Uchaf sy’n cynnwys trefi Llantrisant a Thonyrefail. Er gwaethaf ei harwyddocâd yn y DU, mae poblogaeth Britheg y Gors Elái Uchaf yn lleihau ac wedi wynebu dirywiad graddol, parhaus ers o leiaf 25 mlynedd.

Un ardal allweddol ar gyfer y glöyn byw yw Comin Llantrisant, sydd i’r de o’r dirwedd ac yn gorchuddio ardal o fwy na 113ha o gynefin porfa rhos cyfagos. Mae cyfuniad o bori helaeth, yn hanesyddol ac yn gyfredol, gan wartheg wedi creu’r cynefin delfrydol ar gyfer Britheg y Gors, gyda digonedd o Damaid y Cythraul a llystyfiant gwlybdir arall. Er hyn, ni welwyd y glöyn byw ar y Comin ers dros 20 mlynedd.

Dyffryn Aman: Arolygon Bywyd Gwyllt

Er bod Dyffryn Aman yn gartref i rai rhywogaethau cenedlaethol brin, ychydig o wybodaeth am fioamrywiaeth yr ardal sydd ar gael.

Mae INCC bob amser wedi bod yn awyddus i dynnu sylw at bwysigrwydd Dyffryn Aman ar gyfer bioamrywiaeth. Y ffordd orau o wneud hynny yw drwy gynnal arolygon ecolegol. Mae nodi presenoldeb a dosbarthiad rhywogaethau penodol yn galluogi INCC i gyflawni prosiectau cadwraeth sydd wedi’u targedu’n well.

Mae cofnodi rhywogaethau penodol yn golygu y bydd y rhywogaethau hynny a’u cynefinoedd yn cael mwy o warchodaeth drwy’r system gynllunio. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy greu Safleoedd o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur (SINCs).

Mae gwirfoddolwyr lleol o’r gymuned wedi gallu chwarae rhan flaenllaw yn yr arolygon ecolegol. Mae arolygon a dyddiau hyfforddi ar gyfer gwirfoddolwyr wedi’u trefnu eisoes ar gyfer y Pathew, ystlumod a Britheg y Gors.

Gwirfoddolwyr cymunedol yn cynnal arolwg Pathewod yn Nyffryn Aman

Diolch i gefnogaeth Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, bydd yr arolygon ecolegol yn parhau ledled y dyffryn am y blynyddoedd nesaf. Bydd hyn yn ychwanegu at ein dealltwriaeth leol a chenedlaethol o lawer o rywogaethau a’u cynefinoedd.

Un rhywogaeth allweddol y mae’r arolygon wedi’i thargedu yw’r Draenog (Erinaceus europaeus). Mae Draenogod wedi dioddef dirywiad enbyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae’n amlwg bod angen gwneud mwy i atal Draenogod rhag diflannu o Gymru yn ystod y degawdau nesaf.

Draenog Dyffryn Aman mewn bocs Draenog

Bydd dod i ddeall am ddosbarthiad Draenogod ledled Dyffryn Aman yn helpu i nodi mesurau cadwraeth wedi’u targedu. Gall y rhain gynnwys creu gwrychoedd, sicrhau bod posib symud drwy erddi a darparu bwyd artiffisial.

Mae INCC wedi bod yn profi cynllun bocsys Draenogod i helpu draenogod yn Nyffryn Aman. Bellach mae posib bwydo draenogod o dan eu pwysau yn yr hydref i’w helpu i oroesi misoedd y gaeaf. Mae hyn hefyd yn helpu i gynyddu’r boblogaeth fagu y flwyddyn ganlynol.

Rhaid sicrhau cydbwysedd gan fod rhaid i focsys fod yn hygyrch i Ddraenogod ond yn anhygyrch i gathod dof. Gyda help a chefnogaeth gwirfoddolwyr cymunedol, mae INCC wedi gwneud a dosbarthu bocsys Draenogod ledled y gymuned (link). Bydd hyn yn helpu gyda dod i ddeall am ddosbarthiad Draenogod a’u helpu i oroesi’r gaeaf.

Nid yw bob amser yn gweithio ac mae rhai cathod yn mynd i mewn

Mae’r arolygon eraill yn cynnwys y Gwybedog Brith (link), blodau gwyllt, a gwyfynod.

Arolwg gwyfynod yn yr ardd bywyd gwyllt

Dyffryn Aman: Cadwraeth Natur Gymunedol

Volunteers on a wildlife walk in the Amman Valley

Wrth galon gwaith INCC yn Nyffryn Aman mae cadwraeth natur gymunedol.

Mae pobl leol o bob oedran a gallu yn gallu chwarae rhan uniongyrchol mewn helpu i warchod bywyd gwyllt yn eu tirwedd. Mae INCC wedi bod yn gweithio gyda thrigolion y Dyffryn ers dros 5 mlynedd i ennyn brwdfrydedd pobl leol a’u cynnwys yn yr ymwneud â’r bywyd gwyllt o’u cwmpas.

Dros y blynyddoedd diwethaf trefnwyd digwyddiadau cymunedol gyda chefnogaeth Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Cyngor Tref Cwmaman a Dyfarniadau i Bawb y Loteri Genedlaethol. Bwriad y digwyddiadau yw tynnu sylw at bwysigrwydd ecolegol Dyffryn Aman ac ysbrydoli cymunedau lleol i gymryd rhan mewn cadwraeth natur.

Dyffryn Aman yn y gwanwyn

Mae aelodau o’r gymuned wedi bod yn amhrisiadwy wrth helpu i adeiladu nifer o focsys bywyd gwyllt ar gyfer Pathewod, Ystlumod, Draenogod, ac adar gan gynnwys y Gwybedog Brith a’r Cudyll Coch. Mae plant ysgol lleol wedi dod yn hyrwyddwyr Draenogod yn y Cwm ac wedi addurno nifer o focsys Draenogod yn ddiweddar, ac mae un ohonynt wedi’i osod ar dir yr ysgol, a mae eraill wedi cael eu dosbarthu o amgylch y Dyffryn.

Mae teithiau cerdded bywyd gwyllt tywys ar gyfer cymunedau lleol wedi cael eu cynnal bob blwyddyn ers 2019. Roedd llawer o drigolion lleol yn gallu gweld y bocsys nythu y gwnaethant helpu i’w gwneud yn cael eu defnyddio gan y gwybedog brith ac adar eraill y coetir. Cynlluniwyd y teithiau bywyd gwyllt i ysbrydoli pobl am fywyd gwyllt lleol ac roeddent yn cynnwys amrywiaeth o gynefinoedd Dyffryn Aman. Mae’r cynefinoedd yn y dyffryn yn cynnwys rhostir ucheldirol, mign, coetir, cors, dôl, prysgwydd ac afon a nant.

Taith gerdded gwanwyn o amgylch Dyffryn Aman (Llun (c) Ellyn Baker)

Mae teithiau cerdded eraill wedi canolbwyntio ar ystlumod, corws y wawr, blodau gwyllt a mwy. Roedd y teithiau cerdded, ynghyd â dyddiau i wirfoddolwyr yn gwneud bocsys nythu i adar y coetir, yn garreg gamu i bobl o bob oedran archwilio bywyd gwyllt y dyffryn a chymryd mwy o ddiddordeb yn ei gadwraeth.

Gwrando am Cwcw ar taith cerdded corws y wawr (Llun (c) Carla Williams)

Yn 2024, llwyddodd INCC i gyflogi unigolyn i gynnal prosiect Draenogod a Gwenoliaid y Bondo yn y Dyffryn. Fel rhan o hyn, rhoddwyd dwsinau o focsys Draenogod i drigolion, ac mae cwpanau nythu arbenigol i Wenoliaid y Bondo wedi cael eu gosod ar adeiladau mewn ardaloedd sy’n addas iawn ar gyfer y rhywogaeth. Mae’r safleoedd hyn wedi cynnwys yr orsaf heddlu yn Rhydaman a’r clwb rygbi lleol – diolch i bawb sydd wedi cytuno i roi cartref i un (neu fwy!).

Gwenoliaid y Bondo casglu mwd i’w nyth

Yn gynnar yn 2020, llwyddodd INCC i greu polydwnnel cymunedol sy’n benodol ar gyfer tyfu blodau gwyllt a hyrwyddo garddwriaeth gynaliadwy a garddio er budd bywyd gwyllt. Gyda chefnogaeth gan bartneriaid a chymunedau lleol, llwyddodd INCC i ddatblygu a lansio’r ‘Weledigaeth ar y Cyd ar gyfer Cadwraeth Natur yn Nyffryn Aman’. Mae’r ddogfen yn gosod y sylfaen ar gyfer holl weithgareddau cadwraeth natur cymunedol y Dyffryn yn y dyfodol. Ers hynny, mae INCC wedi datblygu gardd bywyd gwyllt fawr gyda pholydwnnel mwy i wella’r gwaith y gallwn ei wneud yn y Dyffryn.

Dyffryn Aman: Adfer Cynefinoedd

Wildflower roadside verge in the Amman Valley

Mae INCC wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid yn Nyffryn Aman i ddechrau adfer cynefinoedd, gan gynnwys glaswelltir corsiog a dolydd.

Cynhaliwyd arolwg cynefin o ran helaeth o Ddyffryn Aman gan Gyngor Sir Caerfyrddin (CSC) yn 2020. Mapiodd yr arolwg y cynefinoedd yn y dirwedd sydd o bwysigrwydd arbennig ar gyfer bioamrywiaeth. Cofnodwyd cyfanswm o 324 o adrannau cynefinoedd unigol o fathau o gynefin lled-naturiol, yn gorchuddio mwy na 950ha o gynefin.

Map cynefin o Ddyffryn Aman

Y cynefin cyfunol mwyaf o ran arwynebedd oedd coetir, gan gynnwys gwrychoedd. Gellir dod o hyd i gynefin coetir o wahanol oedrannau ac ansawdd ecolegol ledled y dirwedd. Blociau coetir mwy sy’n gysylltiedig ag Afon Aman a’i llednentydd.

Un o gynefinoedd bywyd gwyllt pwysicaf y dyffryn yw glaswelltir corsiog, sydd wedi’i ddosbarthu’n eang ledled y dirwedd. Mae’r cynefin glaswelltir corsiog mewn sawl ardal yn gartref i löyn byw prin Britheg y Gors (Euphydryas aurinia). Mae’r glöyn byw yma wedi wynebu dirywiad trychinebus ledled llawer o Ewrop a’r DU yn ystod y degawdau diwethaf. Er bod Cymru yn parhau i fod yn gadarnle cymharol iddo, hyd yn oed yma mae llawer o ddifodiant lleol wedi digwydd.

Britheg Y Gors yn Nyffryn Aman

Mae dirywiad y rhywogaeth yn gysylltiedig â cholli ei chynefin glaswelltir corsiog a phorfa rhos. O’u rheoli’n briodol, mae’r cynefinoedd hyn yn darparu’r strwythur gwyndwn delfrydol sydd ei angen ar y lindys a’u planhigyn bwyd (Tamaid y Cythraul (Succisa pratensis)). Mae colli cynefinoedd glaswelltir llawn rhywogaethau, drwy ddwysáu amaethyddol yn bennaf, wedi arwain at dirweddau darniog sy’n cynnal llai a llai o ardaloedd sy’n addas ar gyfer y rhywogaeth.

Mae INCC wedi bod yn gweithio gyda pherchnogion tir lleol a sefydliadau partner i helpu i adfer darnau o gynefin glaswelltir corsiog yn y dirwedd.

I helpu gydag adfer cynefinoedd, mae INCC wedi gosod polydwnnel mewn gardd bywyd gwyllt gymunedol newydd. Mae’r polydwnnel wedi’i osod yn ei le yn arbennig i dyfu amrywiaeth o flodau gwyllt brodorol a hyrwyddo garddio bywyd gwyllt.

Mae gwirfoddolwyr cymunedol wedi tyfu miloedd o blanhigion Tamaid y Cythraul, a channoedd yn rhagor o Garpiog y Gors (Lychnis flos-cuculi), Creulys y Gors (Jacobaea aquatica) a llawer o blanhigion eraill.

Polydwnnel cymunedol llawn o blanhigion Tamaid y Cythraul

Ein prosiect adfer cynefin cyntaf yn Nyffryn Aman oedd adfer dôl laith hardd ym Mharc Golwg yr Aman yng nghalon y gymuned. Am nifer o flynyddoedd torrwyd y ddôl yn rheolaidd drwy gydol y flwyddyn fel glaswelltir dymunol. Gan weithio’n agos gyda Chyngor Tref Cwmaman sy’n rheoli’r parc, roedd modd i ni eu darbwyllo i roi’r gorau i dorri’r gwair yn ystod y tymor tyfu. Heddiw, mae’r ddôl laith yn un o’r glaswelltiroedd mwyaf amrywiol o ran blodau yn y Dyffryn.

Yng ngwanwyn 2021, plannodd INCC, ochr yn ochr â gwirfoddolwyr lleol, Cyngor Tref Cwmaman a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, lawer o’r eginblanhigion hyn. Mae’r planhigion yn helpu i adfer amrywiaeth flodeuog y glaswelltir corsiog ym Mharc Golwg yr Aman yn Nyffryn Aman, yn ogystal ag yng ngardd bywyd gwyllt INCC.

Parc Golwg yr Aman yn 2023

Diolch i gefnogaeth Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae gwaith adfer cynefinoedd eraill yn y Dyffyn wedi cynnwys cael gwartheg i bori ar safleoedd glaswelltir corsiog sydd wedi gordyfu. Gwartheg o frîd brodorol yw un o’r ffyrdd gorau o reoli cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt. Mae’r gwaith hwn wedi cynnwys contractwyr lleol yn gwella ffensys a gosod corlannau cadw a chafnau dŵr yn eu lle.

Gwartheg yn pori glaswelltir corsiog yn Nyffryn Aman

Mae’r gwaith o adfer dolydd blodau gwyllt wedi dechrau hefyd, gyda hadau wedi’u casglu yn lleol o’r Ardd Fotaneg yn cael eu gwasgaru ar ddolydd wedi’u gwella’n amaethyddol.

Cynaeafu hadau blodau gwyllt yn Nyffryn Aman

Yn ogystal â chynefinoedd glaswelltir, mae INCC hefyd wedi plannu perllan o amrywiaethau o goed ffrwythau lleol ac rydym wedi creu cannoedd o fetrau o wrychoedd.