Gadael gwaddol am byth i fyd natur yng Nghymru drwy adael rhodd yn eich ewyllys

Fel elusen cadwraeth natur fechan ac ymroddedig byddai eich rhodd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i ni. Byddwn yn sicrhau y bydd eich gwaddol yn cael ei ddefnyddio yn y meysydd hynny o’r elusen lle bydd yn cael yr effaith fwyaf ar gyfer bywyd gwyllt a chadwraeth natur.

Mae angen ein help ni ar fywyd gwyllt nawr, yn fwy nag erioed. Mae gadael rhodd yn eich ewyllys yn un o’r ffyrdd gorau o helpu INCC i godi llais dros fywyd gwyllt a chreu Cymru sydd â mwy o fywyd gwyllt mewn mwy o lefydd.

Ar ôl gofalu am eich teulu, eich ffrindiau a’ch anwyliaid, gall hyd yn oed swm bach wneud byd o wahaniaeth i’r gwaith rydyn ni’n ei wneud yma yn INCC.

Gallai rhodd yn eich ewyllys ein helpu ni i wneud y canlynol:

  • Gwarchod ardaloedd o dir ar gyfer byd natur.
  • Brwydro dros well deddfau a pholisïau i amddiffyn byd natur.
  • Cefnogi ac annog cadwraethwyr natur y dyfodol.
  • Gweithio gyda chymunedau lleol i greu gwarchodfeydd natur tirwedd ledled Cymru.
  • Creu gofod ar gyfer byd natur a chymunedau lleol.
  • Ymgymryd ag ymchwil hanfodol i warchod rhywogaethau a’u cynefinoedd.
  • Dychwelyd rhywogaethau a phoblogaethau yn ôl i gynefin addas yn y dirwedd.
  • Cymryd camau cyfreithiol i achub bywyd gwyllt a’u cynefinoedd yng Nghymru.
  • Darparu llwyfan i bawb sydd â diddordeb mewn byd natur ddod at ei gilydd i rannu eu profiadau a’u hatebion.

Nid yw ac ni fydd INCC yn derbyn cyllid gan y llywodraeth. Rydyn ni wedi mabwysiadu’r safbwynt unigryw yma fel ein bod yn gallu parhau i fod yn annibynnol, yn ddigyfaddawd ac yn gallu codi llais a herio awdurdodau i wneud mwy dros fywyd gwyllt.

Felly gallai gadael rhodd i ni yn eich ewyllys gael effaith lawer mwy nag y gallech chi erioed ei ddychmygu.

Gwaddol ar gyfer eu dyfodol

Addewid yr INCC

  • Mae eich ewyllys chi’n bersonol ac ni fyddwn byth yn gofyn i chi ddweud wrthym beth yw eich penderfyniad (er y byddem wrth ein bodd yn cael y cyfle i ddweud diolch).
  • Rydyn ni’n deall bod teulu a ffrindiau bob amser yn dod yn gyntaf.
  • Ni fyddwn byth yn eich rhoi chi dan unrhyw bwysau – eich penderfyniad chi yw hwn, i’w wneud yn eich amser eich hun.
  • Os byddwch yn dewis cofio am yr INCC yn eich ewyllys, byddwn yn defnyddio’ch rhodd yn ofalus fel ei bod yn cael yr effaith fwyaf ar fywyd gwyllt a’r gwaith rydyn ni’n ei wneud.
  • Gallwch chi newid eich meddwl unrhyw bryd

Sut i adael rhodd

Mae cofio amdanom ni yn eich ewyllys yn symlach nag ydych chi’n ei feddwl – y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw rhoi gwybod i’ch cyfreithiwr bod gennych chi ddiddordeb mewn gadael rhodd i INCC yn eich ewyllys a rhoi’r manylion canlynol iddo ef neu hi.

Enw’r Elusen: Menter ar gyfer Cadwraeth Natur Cymru (INCC)

Cyfeiriad: Y Ganolfan Wyddoniaeth, GFGC, Llanarthne, Sir Gaerfyrddin, SA32 8HG

Rhif Elusen Gofrestredig: 1180113

Gallwch hefyd fynd i’r wefan Cofio Elusen i ddod o hyd i gyfreithiwr yn eich ardal leol a fydd yn gallu eich cynghori chi ar adael rhoddion i elusennau wrth i chi wneud ewyllys.

Os hoffech chi gael gwybod mwy, neu os oes gennych chi gwestiynau am adael rhodd yn eich ewyllys, cysylltwch â Rob ar 07821 397625 neu e-bostiwch rob.parry@incc.wales.