
Ein tudalen arferol gan elusen Buglife
Mae bywyd mewn coed marw!
Ryan Clark
Mae popeth yn digwydd yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
Dawnsio i rhythm y ffyngau – Hygrocybe calyptriformis
Bruce Langridge
Mewnwelediadau diddorol o Amgueddfa Genedlaethol Cymru
Diogelu perlau’r casgliad gwyddonol
Harriet Wood
Ein tudalen arferol gan elusen Plantlife
Pen y Gogarth
Colin Cheesman
Newyddion gan Coed Cadw, ymddiriedolaeth coetir Cymru
Prosiect The Long Forest
Nick Atkinson
Yn 1915, creodd Charles Rothchild y rhestr gyntaf o leoliadau sy’n werth eu cynnal a’u cadw ar gyfer byd natur. Er bod y wybodaeth am y safleoedd yng Nghymru yn fras iawn, mae’n fuddiol ailedrych ar y rhestr ac ystyried sut mae’r safleoedd wedi dod yn eu blaenau, ac fel nododd yr awdur JONATHAN MULLARD, mae’n werth ystyried sut gyflwr fydd arnynt ymhen canrif arall.
Gyda’i guddliw perffaith, gallech chi’n hawdd gael eich esgusodi am beidio â sylwi ar Chwilen y Draethlin. Yn anffodus, mae nifer o resymau sinistr ynghylch pam na chaiff ei gweld yn aml. MIKE HOWE sy’n sôn am y dirywiad mewn niferoedd ar arfordir De Cymru.
Caiff rhywogaethau ffwng anghyfarwydd yn y DU eu canfod yn flynyddol ond nid bob dydd y mae rhywun yn canfod rhywogaeth sy’n newydd i’r byd gwyddonol, yn enwedig un sydd mor drawiadol ac sydd wedi lledanu’n eang. ANDREW SHAW sy’n edrych ar gynnydd y fadarchen newydd.
Mae Trelogan yn bentref bychan yng ngogledd Sir y Fflint sydd â hanes hir o gloddio metel. PAUL DAY a PHIL PUTWAIN sy’n egluro sut yr esgorodd y gwaith cloddio ar blanhigion diddorol a labordy awyr agored sydd wedi dangos yr arddangosiad gwychaf o esblygiad ar waith.
Mae dyfodiad camerâu digidol wedi newid byd ffotograffwyr adar. Mae JEREMY MOORE wedi symud ymlaen o fod yn tynnu lluniau o dirluniau i dynnu lluniau o adar yn y tirluniau. Mae’n disgrifio ei daith a ddaeth i ben llanw gyda’i arddangosfa Adar/Tir, lle mae ffotograffau siâp blwch post yn cael eu harddangos fel triptych.
Mae GETHIN DAVIES yn gwybod cystal â neb sut y mae profiad cynnar o fod allan yn yr awyr agored, a threulio amser ar draethau Cymru, yn gallu dylanwadu ar ddiddordebau ac hyd yn oed ar drywydd gyrfa. Felly mae Taith Fioamrywiaeth flynyddol Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, sy’n bwriadu canolbwyntio eleni ar gynefinoedd morol y Parc, yn agos at ei galon. Yn yr erthygl hon mae’n egluro mwy am gefndir y Daith Fioamrywiaeth flynyddol, ac yn rhoi blas o’r gweithgareddau y bydd plant o dair ysgol gynradd arfordirol yn eu mwynhau yn ystod mis Mehefin 2016.
Mae syniadau newydd am symudiadau ystlumod yn y Deyrnas Unedig yn dechrau amlygu eu hunain. Rydym wedi darganfod fod ystlumod fel y Nathusius’ pipistrelle yn ymgymryd â theithiau anhygoel. Yma, mae RACHEL TAYLOR yn adrodd yn ôl ar brosiect ymchwil sy’n cofnodi ystlumod ar dair o ynysoedd Sir Benfro. Mae’n edrych hefyd am dystiolaeth o ystlumod yn cymudo i’r safleoedd hyn. Daethpwyd o hyd i lawer mwy o ystlumod na’r disgwyl ac fe welwyd rhywogaethau annisgwyl fel yr ystlum pedol fwyaf..
Adroddiad gan DAVID SAUNDERS am ynys drawiadol Gwales sy’n gartref i’r pedwerydd cytref mwyaf yn y byd o’r fulfran wen
Derbyniwyd adroddiad gan Natur Cymru 50 am gamau cyntaf prosiect Perlau mewn Perygl sy’n anelu i ddiogelu cregyn gleision perl mewn dŵr ffres ar yr Afon Eden. Fel y mae’r gwaith yn dod tua’i derfyn bydd ELAIN GWILYM a JACKIE WEBLEY yn adrodd yn ôl ar y gwaith sydd wedi’i gyflawni. Mae pethau’n edrych yn obeithiol, ond fe all fod yn sawl blwyddyn cyn y byddwn yn gwybod yn union pa mor llwyddiannus y mae wedi bod ran wen
Meadowland gan John Lewis-Stempel
Field Guide to the Bees of Great Britain and Ireland gan Steven Falk, arluniwyd gan Richard Lewington
Cregyn cylchog wedi’u serio
Ivor Rees