Mae INCC wedi bod yn adeiladu ac yn gosod bocsys nythu yn eu lle ar gyfer y Gwybedog Brith yn Nyffryn Aman mewn nifer o goetiroedd amrywiol.
Mae hyn fel rhan o ymrwymiad INCC i gydnabod Dyffryn Aman fel tirwedd o bwysigrwydd i gadwraeth natur.

Mae’r Gwybedog Brith (Ficedula hypoleuca) yn aderyn eiconig yng Nghymru heb fod yn fwy na’r Pila Gwyrdd (Spinus spinus) ac yn pwyso rhwng 10g a 15g. Aderyn mudol yr haf ydi’r Gwybedog Brith sy’n ymweld â’n glannau ni ac yn gwneud siwrnai anhygoel yr holl ffordd o Orllewin Affrica i fagu yn ein coetiroedd derw aeddfed.
Mae’r Gwybedog Brith yn cyrraedd Dyffryn Aman tua diwedd mis Ebrill ac yn dechrau sefydlu tiriogaethau a dod o hyd i gymar. Mae’n nythu mewn tyllau naturiol mewn coed yn aml, ond yn cymryd at focsys nythu yn rhwydd hefyd. Unwaith y bydd wedi paru, mae’r aderyn yn gwneud nyth siâp cwpan o risgl Gwyddfid a mwsogl ac yn dodwy rhwng 5 a 9 o wyau glas golau. Erbyn diwedd yr haf, bydd y Gwybedog Brith wedi magu cywion ac yn barod i deithio ar ei siwrnai yn ôl i Orllewin Affrica.

Er gwaethaf ei statws eiconig, mae poblogaeth y Gwybedog Brith yn y DU wedi dirywio fwy na 50% ers 1995 (Baillie et al. 2014). Mae bellach ar Restr Goch yr Adar o Bryder Cadwraethol yn y DU (Eaton et al. 2015).
Nid yw’r dirywiad wedi’i ddeall yn llawn eto a gall fod oherwydd nifer o ffactorau integredig gan gynnwys colli cynefin, mudo a newid yn yr hinsawdd. Mae newid yn yr hinsawdd yn achosi diffyg cyfateb o ran faint o fwyd sydd ar gael pan mae’r cywion yn hedfan y nyth (BTO 2019). Mae hyn yn golygu bod y Gwybedog Brith yn rhy hwyr yn aml i fanteisio i’r eithaf ar y niferoedd mawr o bryfed sydd eu hangen i fagu eu cywion.
Yng ngwanwyn 2019, gyda chefnogaeth Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, perchnogion tir a gwirfoddolwyr lleol, gosododd INCC gyfanswm o 145 o focsys nythu yn eu lle. Adeiladwyd y bocsys pren pwrpasol gan wirfoddolwyr a’u gosod mewn pum coetir gwahanol ledled Dyffryn Aman. Adeiladwyd y bocsys pren pwrpasol gan wirfoddolwyr a’u gosod mewn pum coetir gwahanol ledled Dyffryn Aman.

Cyn y prosiect, nid oedd unrhyw gofnodion biolegol ar gyfer y Gwybedog Brith yn bodoli yn Nyffryn Aman. Datgelodd gwaith monitro ar ddau o’r pum coetir yn y dyffryn yn 2019 gyfanswm o saith o focsys nythu gyda’r Gwybedog Brith yn eu defnyddio.

Mae bocsys pren yn cynnig ceudod mwy naturiol i adar ond yn anffodus dim ond am ychydig o flynyddoedd maen nhw’n para cyn pydru. Ers 2021, rydyn ni wedi bod yn gosod bocsys prencrid caled yn eu lle, mae’r rhain wedi’u gwneud o gymysgedd o goncrid a naddion pren. Hyd yn hyn mae mwy na 500 o focsys wedi’u gosod allan yn y Dyffryn ac wedi’u gwirio yn 2022 a 2023.

Ni chafodd unrhyw un o’r bocsys pren eu gwirio yn 2023 ond defnyddiwyd o leiaf 25 o’r bocsys prencrid gan y Gwybedog Brith, canlyniad gwych. Yn ogystal, defnyddiwyd y bocsys gan y Tingoch (Phoenicurus phoenicurus), Telor y Cnau (Sitta europaea), y Titw Mawr (Parus major), y Titw Tomos Las (Cyanistes caeruleus) a’r Dryw (Troglodytes troglodytes).
Nid dim ond adar ddaethon ni o hyd iddyn nhw yn y bocsys chwaith; gwelwyd Llygod y Coed (Apodemus sylvatica), Ystlumod Lleiaf (Pipistrellus sp.) a Chacwn Meirch (Vespa crabro), ynghyd â llawer iawn o bryfed clustiog …
Bydd INCC yn parhau i fonitro’r bocsys nythu a phoblogaeth y Gwybedog Brith yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod. Dim ond oherwydd yr ymrwymiad parhaus gan berchnogion tir lleol a gwirfoddolwyr o’r gymuned mae hyn yn bosibl. Gobeithir y bydd monitro ac ymchwil yn cyfrannu at yr wybodaeth cadwraeth genedlaethol am y rhywogaeth. Bydd rhan o’r ymchwil yma yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod yn cynnwys dechrau modrwyo cywion y Gwybedog Brith (o dan drwydded gan Ymddiriedolaeth Adareg Prydain). Bydd hyn yn ein helpu ni i ddysgu i ble mae’r Gwybedog Brith yn mynd pan fydd yn mudo, yn ogystal â pha mor ffyddlon ydi’r aderyn yma i’r Dyffryn pan fydd yn dychwelyd.


