RHOWCH DANYSGRIFIAD NATUR CYMRU YN ANRHEG Y NADOLIG YMA

Oes gennych chi rywun hoff o fyd natur yn eich bywyd? Chwilio am anrheg Nadolig ystyrlon iddo ef neu hi?

Does dim angen edrych ymhellach na Natur Cymru! Am ddim ond £30 gallwch roi tanysgrifiad blwyddyn i’r cychgrawn yn anrheg y Nadolig yma a chyflwyno llawenydd bywyd a llefydd gwyllt Cymru sydd mor bwysig i chi i’ch anwyliaid.

Am £30 byddwch yn cael:

  • Copi o’r rhifyn cyfredol (haf 2025) i’w roi fel anrheg wedi’i lapio, a hefyd llythyr croeso dwyieithog yn esbonio’r anrheg ac yn enwi’r rhoddwr. Gellir naill ai anfon hwn yn uniongyrchol drwy’r post at y sawl sydd i’w dderbyn (ac os felly bydd yn cyrraedd mewn amlen frown heb frand gyda sticer yn nodi ei fod yn anrheg, yn ogystal â sticeri ar thema’r Nadolig ar y tu allan), neu i chi fel y rhoddwr i’w roi eich hun.
  • Dau gopi arall (Ionawr a Gorffennaf 2026) fel tanysgrifiad blwyddyn yn cael eu postio’n uniongyrchol at y sawl sydd i’w derbyn adeg eu cyhoeddi.
  • Y pleser o wybod bod y sawl sy’n eu derbyn yn parhau i fwynhau eich anrheg am flwyddyn gron.
  • Y budd o wybod bod eich pryniant hefyd yn cefnogi’r elusen bywyd gwyllt INCC i gyflawni ei gwaith cadwraeth yng Nghymru.
  • Os byddwch chi’n darparu cyfeiriad e-bost ar ei gyfer, bydd y sawl sy’n derbyn y cylchgrawn yn cael un e-bost yn ei wahodd i adnewyddu ymhen blwyddyn.

Anfonir ein holl gylchgronau gan ddefnyddio’r Post Brenhinol ac felly dim ond archebion fydd wedi cyrraedd erbyn diwedd y diwrnod gwaith ar ddydd Gwener 19 Rhagfyr fydd yn siŵr o gyrraedd y rhai sydd i’w derbyn erbyn Dydd Nadolig, yn unol ag argymhellion y Post Brenhinol.

Ar gyfer ymholiadau pwrpasol ynghylch archebion tymhorol, neu gwestiynau am y cylchgrawn ei hun neu’r broses archebu, cysylltwch â’r golygydd Lizzie Wilberforce ar lizzie.wilberforce@incc.wales

Am fwy am y cylchgrawn: Natur Cymru

I gael tanysgrifiad yn anrheg ar-lein: Anrheg o Danysgrifiad Blwyddyn i Natur Cymru – Menter ar gyfer Cadwraeth Natur Cymru

Ar gyfer ffyrdd (all-lein) eraill o dalu, cysylltwch â’r golygydd ar y cyfeiriad e-bost uchod.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Switching language?

You've switched the language and there are items in the cart. If you keep the Cymraeg language, the cart will be emptied and you will have to add the items again to the cart.