Hyd: Swydd dwy flynedd gyda dyhead am swydd barhaol.
Llawn amser: £28,000
Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau: Dydd Llun 5ed Ionawr 2025, 5:00pm
Dyddiad y Cyfweliadau: Dydd Iau 8fed Ionawr 2025
Lleoliad Gwaith – Gweithio o gartref ac ar leoliad ledled Cymru yn dilyn straeon. Hefyd, ym mhrif swyddfa INCC: Y Ganolfan Wyddoniaeth, d/o Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Sir Gaerfyrddin.
Am INCC
Mae INCC yn elusen a sefydlwyd yn 2018 mewn ymateb i’r angen cynyddol am sefydliad cadwraeth natur annibynnol yng Nghymru. Nid ydym yn derbyn cyllid gan y llywodraeth fel ein bod yn gallu codi llais a herio pobl sy’n gwneud penderfyniadau amgylcheddol dros fywyd gwyllt heb ofni dial ariannol. Rydym yn sicrhau cydbwysedd rhwng ymgyrchu ac ymgyfreitha a chyflawni cadwraeth natur ymarferol sy’n cynnwys cadwraeth gymunedol, ymchwil ac adfer rhywogaethau a chynefinoedd ar raddfa fawr. Mae INCC hefyd yn gartref i’r cylchgrawn cadwraeth natur ar gyfer Cymru gyfan, Natur Cymru, sef cyhoeddiad amhleidiol gyda’r nod o ddathlu bywyd gwyllt Cymru a dod â grwpiau ac unigolion at ei gilydd i rannu newyddion, materion ac atebion cadwraeth natur. Mae INCC wedi bod yn llwyddiannus gyda chodi arian i gynyddu ei allu i herio pobl sy’n gwneud penderfyniadau amgylcheddol yng Nghymru drwy ddatblygu ei dîm ymchwiliadau ei hun a chynyddu gallu’r sefydliad i gyflwyno ymgyrchoedd effeithiol dros fyd natur.
Dros y tair blynedd nesaf rydym eisiau arloesi gyda newid sylfaenol yn y sector cadwraeth natur a fydd yn gweld mwy o bwyslais yn cael ei roi ar ddal pobl sy’n gwneud penderfyniadau amgylcheddol i gyfrif. Rydym eisiau cyflawni hyn drwy ddatgelu a herio eu hagweddau, eu diffyg gweithredu a’u prosesau gwneud penderfyniadau, lle mae gan hynny’r potensial i effeithio ar fywyd gwyllt a’r sector cadwraeth natur yng Nghymru. Rydym nawr yn chwilio am newyddiadurwr ymchwiliol talentog i helpu gyda’n cenhadaeth, ac i arwain y sylw sy’n cael ei roi i straeon amgylcheddol a straeon sy’n gysylltiedig â byd natur ledled Cymru.
Am y Rôl
Fel Newyddiadurwr Ymchwiliol INCC, byddwch wrth galon ein tîm ymchwiliadau natur newydd. Rydym wedi ymrwymo i gynhyrchu newyddiaduraeth o ansawdd uchel ac effeithiol sy’n sail i, yn herio ac yn ysbrydoli newid yng Nghymru er lles byd natur. Mae ein gwaith yn dal pŵer i gyfrif ac yn cryfhau llais byd natur nad oes neb yn ei glywed, a’r llefydd mae bywyd gwyllt yn eu galw’n gartref.
Byddwch yn datgelu ac yn adrodd ar yr heriau amgylcheddol allweddol sy’n wynebu Cymru – o golli bioamrywiaeth a rheoli tir i newid hinsawdd, llygredd, ac yn bwysig iawn hefyd, y wleidyddiaeth sy’n dylanwadu ar gadwraeth natur. Byddwch yn cynhyrchu ymchwiliadau manwl a dadansoddiadau sy’n seiliedig ar ddata ac yn adrodd straeon grymus sy’n dod â materion cymhleth yn fyw i gynulleidfa eang. Byddwch yn ymwneud â hyrwyddo ymchwiliadau ar y teledu, y radio, cyfryngau cymdeithasol, ac ar-lein ac mewn print
