Dyma Ellyn, Swyddog Gwyliadwriaeth Rhywogaethau newydd ar gyfer INCC, a fydd yn gweithio gyda ni trwy fis Awst i helpu gyda thasgau ar gyfer rhai o brif brosiectau INCC. Mae Ellyn yn fyfyriwr Bioleg o Brifysgol Caerwysg a newydd orffen ei flwyddyn gosodiad diwydiannol yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, lle mae yn barod wedi bod yn ein helpu i fagu lindys brith y gors yn barod ar gyfer ail-gyflwyniad i Gomin Llantrisant.
“Rydw i wastad wedi mwynhau bod allan yn yr awyr agored, gyda natur a bywyd gwyllt o fy nghwmpas, felly rydw i’n lwcus iawn bod fy newis o radd yn fy ngalluogi i ganlyn gyrfa mewn ardal o wyddoniaeth sydd yn ddiddorol iawn i fi, ac rwyf yn angerddol amdano. Mae rhan fwyaf o fy addysg prifysgol wedi cael ei effeithio gan y pandemig, felly nid oes wedi bod llawer o gyfleoedd i wneud gwaith maes a datblygu sgiliau ymarferol. Fodd bynnag, mae fy mlwyddyn ar osodiad wedi darparu digonedd o gyfleoedd i wneud gwaith ymarferol yn y lab a gwaith maes. Rydw i yn wirioneddol wedi mwynhau fy mlwyddyn yn yr Ardd Fotaneg, ac wedi dysgu cymaint yn ystod fy amser yno. Felly, fe wnes i achub ar y cyfle i wneud interniaeth gyda INCC gan oeddwn yn gwybod byddai hyn yn rhoi profiad gwerthfawr ym maes cadwraeth gan fy ngalluogi i ddatblygu fy sgiliau wrth wneud gwaith cadwraeth ymarferol. Roedd hefyd yn gyfle i gyfrannu i achosion rydw i’n angerddol drostynt, gan helpu i adfer poblogaethau o rywogaethau dan fygythiad a chynyddu bioamrywiaeth yng Nghymru.
Rydw i yn barod wedi bod yn helpu yn yr ardd bywyd gwyllt cymunedol yng Ngarnant, yn plannu allan carpiog y gors a rhoi dŵr i’r holl blanhigion. Un o fy nghyfrifoldebau arall y mis hwn bydd i ddyfrio ac i atgyflenwi planhigion tamaid y cythraul yn llociau magu brith y gors, gan sicrhau nad yw’r cannoedd o lindys yn mynd yn llwglyd. Rydw i hefyd yn edrych ymlaen at wneud arolygon ar gyfer gwe larfaol ar Gomin Llantrisant er mwyn monitro llwyddiant cenhedliad brithion y gors a chafodd eu rhyddhau mis Medi diwethaf – cafodd pili-palod eu recordio yn cenhedlu a dodi wyau ar y comin ym Mehefin, felly rwyf yn gynhyrfus i weld os ydynt wedi deor yn llwyddiannus. Byddaf hefyd yn helpu gydag adferiad dolydd blodau gwyllt yn Nyffryn Aman, ac yn cynorthwyo Swyddog Rhywogaethau, Vaughn, wrth gynnal arolygon bywyd gwyllt. Felly mae gen i fis cyffrous a phrysur iawn i ddod!”